Rhys Ifans

Rhys Ifans
GanwydRhys Owain Evans Edit this on Wikidata
22 Gorffennaf 1967 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor llwyfan, actor ffilm, actor, actor teledu, cerddor Edit this on Wikidata
Arddullcomedi, melodrama Edit this on Wikidata
PartnerAnna Friel, Sienna Miller Edit this on Wikidata
Gwobr/auBritish Academy Film Awards Edit this on Wikidata

Actor a chanwr o Gymru yw Rhys Ifans (ganed Rhys Owain Evans: 22 Gorffennaf 1967). Cafodd ei eni yn Hwlffordd, Sir Benfro, ond symudodd y teulu i Ruthun yn Sir Ddinbych, lle cafodd ei addysg gynradd yn Ysgol Pentrecelyn a'i addysg uwchradd yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug. Roedd ei fam, Beti Wyn, yn Brifathrawes yn Ninbych tan iddi ymddeol ar ddiwedd y 90au ac roedd Eurwyn, ei dad, yn athro cynradd ym Mwcle. Roedd ei dad yn aelod o Gwmni Drama John Owen yn Rhuthun a chafodd Rhys brentisiaeth dan adain ei dad. Cafodd hefyd gyfle tra'n ifanc i actio yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Mae'n frawd hŷn i'r actor Llŷr Ifans.

Yn Gymro Cymraeg, ymddangosodd mewn amryw o raglenni teledu Cymraeg, megis cyfresi Swig o..., Sdwnsh, Mwy Na Phapur Newydd a Pobl y Chyff ar S4C cyn esgor ar yrfa ym myd ffilmiau rhyngwladol.

Ym Medi 2012 cafodd ei benodi yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Wici Cymru, sef y gymdeithas sy'n gefn i Wicipedia Cymraeg.


Developed by StudentB