Richard Burton | |
---|---|
Ganwyd | Richard Walter Jenkins 10 Tachwedd 1925 Pontrhydyfen |
Bu farw | 5 Awst 1984 o gwaedlif ar yr ymennydd Céligny |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, dyddiadurwr, actor llwyfan, actor, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd, cyfarwyddwr |
Taldra | 177 centimetr |
Tad | Richard Walter Jenkins |
Mam | Edith Mawd Thomas |
Priod | Elizabeth Taylor, Sybil Williams, Suzy Miller, Elizabeth Taylor, Sally Burton |
Plant | Jessica Burton, Kate Burton |
Perthnasau | Liza Todd, Maria Burton |
Gwobr/au | CBE, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Tony am Actor Gorau mewn Sioe Gerdd, Golden Globes, Gwobr Grammy, Gwobr Tony Arbennig, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | http://www.richardburton.com/ |
llofnod | |
Roedd Richard Burton (10 Tachwedd 1925 – 5 Awst 1984) yn actor o Bontrhydyfen ger Port Talbot. Ei enw bedydd oedd Richard Walter Jenkins; cymerodd yr enw "Burton" ar ôl ei athro Saesneg Philip H. Burton yn Ysgol Ramadeg Aberafan. Fe'i ganwyd ym Mhontrhydyfen.[1][2][3] Roedd yn Gymro Cymraeg ac yn falch o'r iaith.
Actiodd ar y radio yn nrama Brad Saunders Lewis yn y ddwy iaith. Y cast oedd Emlyn Williams, Sian Phillips a Clifford Evans a'r cynhyrchydd oedd Emyr Humphreys.
Cyhoeddwyd bywgraffiad Cymraeg Richard Burton Seren Cymru gan Gethin Mathews yn 2002 gan Wasg Gomer.
Bu farw Burton yn Celigny, Genefa, y Swistir ar 5 Awst 1984.