Math | Bwrdeistref ym Mrasil, dinas fawr, mega-ddinas, former national capital |
---|---|
Poblogaeth | 6,211,423 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Cidade Maravilhosa, Junte-se a Nós |
Pennaeth llywodraeth | Marcelo Crivella |
Cylchfa amser | UTC−03:00 |
Gefeilldref/i | Kyiv |
Nawddsant | Sant Sebastian |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rio de Janeiro |
Gwlad | Brasil |
Arwynebedd | 1,260.029215 km² |
Uwch y môr | 31 metr |
Yn ffinio gyda | Duque de Caxias, Nilópolis, São João de Meriti, Itaguaí, Mesquita, Nova Iguaçu, Seropédica |
Cyfesurynnau | 22.9111°S 43.2056°W |
Cod post | 20000-000 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Municipal Chamber of Rio de Janeiro |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Rio de Janeiro |
Pennaeth y Llywodraeth | Marcelo Crivella |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.799 |
Rio de Janeiro neu Rio[1] yw ail ddinas fwyaf Brasil, De America, y tu ôl São Paulo a Buenos Aires. Ystyr ei henw Portiwgaleg yw "Afon Ionawr". Fe'i lleolir ar arfordir ddwyreiniol canolbarth Brasil sy'n enwog am ei thraethau godidog a Mynydd y Dorth Siwgr. Hi hefyd yw'r chweched dinas fwyaf o ran poblogaeth yn yr America gydag oddeutu 6,211,423 (2022)[2] o bobl.
Roedd y ddinas yn brifddinas ar Brasil am bron i ddwy ganrif, o 1763 tan 1822 yn ystod cyfnod trefedigaethol Portiwgal, ac o 1822 tan 1960 pan oedd yn wlad annibynnol. Rio de Janeiro oedd cyn-brifddinas yr Ymerodraeth Portiwgeaidd hefyd (1808 - 1821). Caiff y ddinas ei hadnabod yn aml fel "Rio", ac mae ganddi'r ffugenw A Cidade Maravilhosa, neu "Y Ddinas Fendigedig". Gelwir trigolion y ddinas yn "gariocas". Cân swyddogol Rio yw "Cidade Maravilhosa", gan y cyfansoddwr André Filho.
Dynodwyd rhan o'r ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd, o'r enw "Rio de Janeiro: Tirweddau Carioca rhwng y Mynydd a'r Môr", gan UNESCO ar 1 Gorffennaf 2012 fel 'Tirwedd Ddiwylliannol'.[3] Mae Rio de Janeiro yn enwog am ei lleoliad naturiol, dathliadau ei charnifal, samba a cherddoriaeth arall, a'r traethau twristaidd, fel Copacabana ac Ipanema.[4] Yn ogystal â'r traethau, mae'r ddinas yn enwog am ei cherflun enfawr o Grist, sy'n cael ei adnabod fel Crist y Iachawdwr ('Cristo Redentor') sydd ar ben mynydd Corcovado. Mae'r ddinas hefyd yn nodedig am Fynydd y Dorth Siwgr (Pão de Açúcar) gyda'r cherbydau gwifren; y Sambódromo, stand gorymdaith parhaol a ddefnyddir yn ystod Carnifal a Stadiwm Maracanã, sy'n un o stadiymau pel-droed mwyaf y byd.
Er gwaethaf ei phrydferthwch, ystyrir Rio fel un o ddinasoedd mwyaf treisgar y byd,[5] sydd wedi ysbrydoli ffilmiau fel Bus 174, City of God ac Elite Squad sydd oll wedi amlygu nifer o faterion cymdeithasol difrifol. Lleolir llawe o'r troseddau treisgar yn y favelas neu'r trefi shanti ond fe'u gwelir hefyd mewn cymdogaethau dosbarth canol ac uwch. Yn wahanol i nifer o ddinasoedd eraill, lleolir nifer o'r slymiau gyferbyn â rhai o ardaloedd mwyaf cefnog y ddinas.
Ceir y fforest fwyaf a'r ail fwyaf yn y byd yn y ddinas hefyd: Floresta da Tijuca, neu "Fforest Tijuca" a'r goedwig yn Parque Estadual da Pedra Branca, sydd bron yn gysylltiedig â'r parc arall. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Galeão - Antônio Carlos Jobim yn cysylltu Rio de Janeiro gyda nifer o ddinasoedd eraill Brasil ac yn cynnig nifer o hediadau rhyngwladol hefyd.
Rio de Janeiro oedd gwesteiwr Gemau Olympaidd yr Haf 2016 a Gemau Paralympaidd yr Haf 2012, gan wneud y ddinas y ddinas gyntaf yn Ne America i gynnal y digwyddiadau hyn, erioed, a'r trydydd tro i'r Gemau Olympaidd gael eu cynnal mewn dinas yn Hemisffer y De.[6] Cynhaliodd Stadiwm Maracanã rowndiau terfynol Cwpan y Byd Pêl-droed 1950 a 2014, Cwpan Cydffederasiynau FIFA 2013, a Gemau Pan Americanaidd XV.