Robert Recorde

Robert Recorde
Ganwydc. 1510 Edit this on Wikidata
Dinbych-y-pysgod Edit this on Wikidata
Bu farw1558 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmathemategydd, meddyg, athronydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Whetstone of Witte, The Ground of Arts, The Castle of Knowledge Edit this on Wikidata

Mathemategydd a meddyg Cymreig oedd Robert Recorde (tua 15121558). Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r hafalnod '=', a hynny yn 1557. Ef hefyd oedd y cyntaf i gyflwyno'r symbol 'adio' neu 'plws' (+) i siaradwyr Saesneg, hefyd yn 1557.[1][2][3][4][5]

Fe'i ganwyd i deulu parchus yn Ninbych-y-Pysgod, Sir Benfro, ac fe aeth ymlaen i astudio ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.[6]

Yr hafaliad cyntaf erioed, gan Recorde, sy'n gyfystyr i: 14x+15=71 heddiw.

Ymgartrefodd yn Llundain fel meddyg a dywedir fod y brenin a'r frenhines ymhlith ei gleifion. Cafodd ei benodi'n bennaeth y bathdy ym Mryste yn 1549. Roedd yn gyfaill i'r mathemategydd, alcemydd ac athronydd Cymreig John Dee.

Bu farw yng Ngharchar Mainc y Brenin yn Southwark, wedi iddo fynd i ddyled.

Recorde yn cyflwyno'r hafalnod "="
  1. (Saesneg) Johnston, Stephen (2004). "Recorde, Robert (c.1512–1558)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/23241.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  2. arstechnica.com; adalwyd 10 Gorffennaf 2017.
  3. [Williams, Jack (2011). Robert Recorde: Tudor Polymath, Expositer and Practitioner of Computation. Springer.
  4. Roberts, Gareth a Fenny Smith (goln) (2012). Robert Recorde: The Life and Times of a Tudor Mathematician. Gwasg Prifysgol Cymru.
  5. Roberts,Gordon (2016). Robert Recorde: Tudor Scholar and Mathematician. Gwasg Prifysgol Cymru
  6. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013

Developed by StudentB