Российская Федерация Rossyîskaia Ffederatsyîa | |
Arwyddair | Datgelwch eich Rwsia eich hun |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth seciwlar, gwlad, Gwlad drawsgyfandirol, talaith ffederal, gwladwriaeth olynol |
Prifddinas | Moscfa |
Poblogaeth | 145,975,300 |
Sefydlwyd |
|
Anthem | Gimn Rossiyskoy Federatsii |
Pennaeth llywodraeth | Michail Mišustin |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Nawddsant | Andreas |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi, Dwyrain Ewrop |
Arwynebedd | 17,075,400 ±1 km² |
Gerllaw | Y Môr Baltig, Y Cefnfor Tawel, Cefnfor yr Arctig, Y Môr Du, Môr Caspia, Môr Azov, East Siberian Sea, Môr Barents, Môr Chukchi, Shantar Sea, Môr Kara, Pechora Sea, Môr Japan, Môr Bering, Môr Gwyn, Môr Okhotsk, Môr Laptev, Queen Victoria Sea |
Yn ffinio gyda | Aserbaijan, Belarws, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Estonia, Y Ffindir, Georgia, Casachstan, Latfia, Lithwania, Gogledd Corea, Norwy, Japan, Unol Daleithiau America, Wcráin, Mongolia, Gwlad Pwyl, yr Undeb Ewropeaidd, Sweden |
Cyfesurynnau | 66.42°N 94.25°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Rwsia |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Ffederal Ffederasiwn Rwsia |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Ffederasiwn Rwsia |
Pennaeth y wladwriaeth | Vladimir Putin |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Rwsia |
Pennaeth y Llywodraeth | Michail Mišustin |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $1,836,892 million, $2,240,422 million |
Arian | Rŵbl Rwsiaidd |
Canran y diwaith | 4.496, 5.589, 4.715, 3.867 |
Cyfartaledd plant | 1.7 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.822 |
Gwlad drawsgyfandirol sy'n ymestyn dros ran fawr o ogledd Ewrasia (Ewrop ac Asia) yw Ffederasiwn Rwsia (Rwsieg: Росси́йская Федера́ция, Rossiyskaya Federatsiya) neu Rwsia (Росси́я, Rossiya). Gydag arwynebedd o 17,075,400 km², y wlad fwyaf o lawer yn y byd yw Rwsia, gan orchuddio bron ddwywaith arwynebedd y wlad ail fwyaf, sef Canada. Mae gan Rwsia adnoddau enfawr mwynau ac ynni, yn ogystal â'r boblogaeth nawfed fwyaf yn y byd. Mae Rwsia yn rhannu ffiniau tir â'r gwledydd canlynol (yn wrthglocwedd, o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain): Norwy, y Ffindir, Estonia, Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Belarws, Wcrain, Georgia, Aserbaijan, Casachstan, Tsieina, Mongolia a Gogledd Corea. Mae hi hefyd yn agos i'r Unol Daleithiau (talaith Alaska), Sweden a Siapan dros gulforoedd eithaf cul (Culfor Bering, y Môr Baltig, a Chulfor La Pérouse, yn ôl eu trefn).
Gynt yn Weriniaeth Sofietaidd Ffederal Sosialaidd Rwsia (GSFfSR), gweriniaeth o'r Undeb Gweriniaethau Sofietaidd Sosialaidd (UGSS), daeth Rwsia yn Ffederasiwn Rwsia yn sgil diddymiad yr Undeb Sofietaidd yn Rhagfyr 1991. Ar ôl y cyfnod Sofietaidd, trosglwyddwyd arwynebedd, poblogaeth a chynhyrchiad diwydiannol a oedd wedi'u lleoli yn Rwsia i Ffederasiwn Rwsia.
Ar ôl ymddatodiad yr Undeb Sofietaidd, daeth Ffederasiwn Rwsia newydd annibynnol yn bŵer mawr, ac ystyrir hefyd bod y wlad yn archbŵer ynni. Ystyrir bod Rwsia yn wladwriaeth olynydd i'r Undeb Sofietaidd mewn materion diplomyddol. Aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yw hi. Mae hefyd yn un o'r pum gwladwriaeth sydd ag arfau niwclear wedi'u cydnabod, ac mae'n meddu ar y stoc fwyaf o arfau eangddinistr yn y byd. Cenedl arweiniol o Gymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol yw Rwsia, ac mae'n aelod o'r G8 yn ogystal â chyrff rhyngwladol eraill.