Saesneg | ||
---|---|---|
English | ||
Siaredir yn | (gweler isod) | |
Cyfanswm siaradwyr | Iaith gyntaf: 309–400 miliwn Ail iaith: 199 miliwn–1.4 biliwn[1][2] Cyffredinol: 500 miliwn–1.8 biliwn[2][3] | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd | |
System ysgrifennu | Lladin (Amrywiolyn Lloegr) | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | 53 gwlad Y Cenhedloedd Unedig Undeb Ewropeaidd Y Gymanwlad Cyngor Ewrop NATO CMRGA STA SyGI SYyCT CUDAD | |
Rheoleiddir gan | Nid oes rheoliad swyddogol | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | en | |
ISO 639-2 | eng | |
ISO 639-3 | eng | |
Wylfa Ieithoedd | 52-ABA | |
Gwledydd lle mai iaith swyddogol neu de facto yw'r Saesneg, neu iaith genedlaethol Gwledydd lle mai iaith swyddogol yw hi ond nid yn brif iaith |
Iaith Germanaidd sy'n frodorol i Loegr yw'r Saesneg (English). Mae'n un o ddwy iaith swyddogol yng Nghymru (ynghyd â'r Gymraeg) yn ogystal, ac yn un o ieithoedd mwya'r byd. Mae'n llawer iau na'r Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd eraill.
Datblygodd y Saesneg o iaith llwythau Germanaidd ag ymsefydlodd ym Mhrydain rhwng y bumed a'r 7g gan ddisodli iaith a diwylliant y Brythoniaid brodorol o rannau o dde-ddwyrain Prydain a chreu'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd. Erbyn 10g roedd y teyrnasoedd hyn wedi uno i greu teyrnas Lloegr. Lledodd y Saesneg drwy'r byd yn sgîl trachwant imperialaidd y Saeson a arweiniodd at greu gwladfeydd Seisnig mewn sawl rhan o'r byd.
Oherwydd ei lle fel iaith mwyafrif yr Unol Daleithiau, mae'r Saesneg wedi dod yn brif iaith y byd ar gyfer cyfathrebu rhyngwladol. Dysgir Saesneg fel ail iaith yn fwy nag unrhyw iaith arall, ond y ffurf Americanaidd ar yr iaith a ddysgir yn amlach na'r ffurf Seisnig.
Mae llenyddiaeth Saesneg yn un o'r llenyddiaethau mwyaf yn y byd, a'i gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd. Mewn canlyniad i'r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a'r Seisnigeiddio yn y wlad, mae gan Gymru ei llenyddiaeth Saesneg hefyd: ysgrifennodd Dylan Thomas ei storïau a'i gerddi yn Saesneg, er enghraifft.