Math | Anialwch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Algeria, Tsiad, Yr Aifft, Moroco, Tiwnisia, Mawritania, Niger, Mali, Swdan, Ffrainc |
Arwynebedd | 9,200,000 km² |
Cyfesurynnau | 23.08°N 12.61°E |
Hyd | 4,800 cilometr |
Yr anialwch neu ddiffeithiwch mwyaf yn y byd yw'r Sahara (yn llythrennol: "yr Anialwch Mwyaf"), sydd ar gyfandir Affrica. Gydag arwynebedd o dros 9 miliwn km sgwâr (3.6 miliwn mi sg), dyma'r anialwch poeth mwyaf yn y byd a'r drydedd anialwch mwyaf yn gyffredinol, ychydig yn llai nag anialwch Antarctica a gogledd yr Arctig. Mae'n cyfateb i faint Unol Daleithiau America, yn ymestyn rhyw 5000 km ar draws gogledd Affrica o'r Môr Iwerydd yn y gorllewin i'r Môr Coch yn y dwyrain. Does ond ychydig o fywyd yn y diffeithiwch ei hun a cheir y rhan fwyaf o'r bywyd sydd ynddo yn yr ardal a elwir Sahel sef yr ardal sy'n ymestyn ar draws y cyfandir ar ochr ddeheuol y Sahara a hefyd ar y rhimyn gogleddol. Fel y teithir fwy fwy i'r de ceir mwy a mwy ooed, y llwyni a bywyd yn gyffredinol.
Nid tywod yn unig yw'r Sahara. Mae rhannau enfawr yn cael ei orchuddio gan raean garw, gyda llawer o'r graig a'r cerrig yn dod o'r lafa a ddaeth unwaith o'r mynyddoedd tân. Mae'r enw "Sahara" yn deillio o'r gair Arabeg am "anialwch" yn y ffurf afreolaidd fenywaidd, yr unigol (/ˈsˤaħra/), lluosog (/ˈsˤaħaːraː/), ṣaḥār (صَحَار), ṣaḥrāwāt (صَحْارَاوَات), ṣaḥāriy (صَحَارِي).
Ceir tymheredd o dros 45 gradd yn aml, ac fe recordiwyd tymheredd o 58 gradd yn y cysgod yn Aziza yn Niffeithwch Lybia, ond yn y nos gan nad oes cymylau i gadw'r gwres i lawr, mae'n gallu bod yn ddychrynllyd o oer. Ond ar waethaf yr hinsawdd creulon mae rhai anifeiliaid a phlanhigion wedi addasu i fyw yno. Am gannoedd o filoedd o flynyddoedd, mae'r Sahara wedi newid bob yn ail rhwng glaswelltir anial a safanna, a hynny mewn cylchoedd o 20,000 o flynyddoedd – newid a achosir gan ragflaeniad (precession) echel y Ddaear wrth iddi gylchdroi o amgylch yr Haul, ac sy'n newid lleoliad Monswn Gogledd Affrica.
Ffynnai sawl tref a dinas i'r de ac i'r gogledd o'r Sahara, fel Tombouctou ym Mali, ar y fasnach draws-Saharaidd sydd â'i gwreiddiau yn y cyfnod cyn-hanesyddol.