Sbaeneg

Sbaeneg (español)
Siaredir yn: Sbaen a'r mwyafrif o wledydd Canol a De America.
Parth: Affrica, Ewrop, America
Cyfanswm o siaradwyr: bron i 600 miliwn
Safle yn ôl nifer siaradwyr: 4
Achrestr ieithyddol: Indo-Ewropeaidd

 Italeg
  Romáwns
   Italo-Gorllewimol

     Galo-Iberaidd
      Ibero-Romáwns
       Iberaidd Gorllewinol
         Sbaeneg

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: Sbaen a llawer o wledydd eraill.
Rheolir gan: Real Academia Española a'r Asociación de Academias de la Lengua Española
Codau iaith
ISO 639-1 es
ISO 639-2 spa
ISO 639-3 spa
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd
Glas tywyll: iaith swyddogol. Glas golau: 20% o'r boblogaeth yn ei siarad.

Iaith a darddodd yn Sbaen yw'r Sbaeneg neu weithiau Castileg[1], sy'n un o'r ieithoedd Romáwns yn y teulu Indo-Ewropeaidd, a esblygodd o Ladin llafar ym Mhenrhyn Iberia yn Ewrop. Heddiw, mae'n iaith fyd-eang gyda bron i 500 miliwn o siaradwyr brodorol, yn bennaf yn America a Sbaen. Sbaeneg yw iaith swyddogol 20 gwlad a hi yw'r ail famiaith a siaredir fwyaf yn y byd ar ôl Tsieineeg Mandarin;[2][3] y bedwaredd iaith a siaredir fwyaf yn y byd ar ôl Saesneg, Tsieinëeg Mandarin, a Hindustani (Hindi-Wrdw); a'r iaith Romáwns fwyaf yn y byd. Mae'r boblogaeth fwyaf o siaradwyr brodorol y Sbaeneg ym Mecsico.[4] Sbaeneg yw'r drydedd iaith a ddefnyddir fwyaf ar y we ar ôl Saesneg a Tsieineeg.[5] Fe'i siaredir hefyd ar draws Canol America, ac yng ngwledydd gorllewinol De America (gan gynnwys yr Ariannin a Pheriw). Fe'i siaredir gan rhyw 500 miliwn fel mamiaith - mwy nag unrhyw iaith arall ar wahân i Tsieineeg Mandarin, a thua 600 miliwn ledled y byd.

Mae'r Sbaeneg yn rhan o'r grŵp Ibero-Romáwns o ieithoedd, a esblygodd o sawl tafodiaith o Ladin Llafar yn Iberia ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol yn y 5g. Daw'r testunau Lladin hynaf ag olion Sbaeneg arnynt o ganol gogledd Iberia yn y 9g,[6] a digwyddodd y defnydd ysgrifenedig systematig cyntaf o'r iaith yn Toledo, dinas amlwg Teyrnas Castile, yn y 13g. Gwladychodd Sbaen llawer o wledydd tramor, gan adael ei hiaith yno ar wefusau'r brodorion, yn fwyaf nodedig yn yr Americas.[7]

Fel iaith Romáwns, mae'r Sbaeneg yn ddisgynnydd i Ladin ac mae ganddi un o'r graddau llai o wahaniaeth ohoni (tua 20% o wahaiaeth) ochr yn ochr â Sardinia ac Eidaleg.[8] Mae tua 75% o eirfa Sbaeneg fodern yn deillio o Ladin, gan gynnwys benthyciadau Lladin o'r Hen Roeg.[9][10] Ochr yn ochr â Saesneg a Ffrangeg, mae hefyd yn un o'r ieithoedd tramor a addysgir fwyaf ledled y byd. Nid yw Sbaeneg yn nodwedd amlwg fel iaith wyddonol; fodd bynnag, fe'i cynrychiolir yn well mewn meysydd fel y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.[11]

Mae'r Sbaeneg yn un o chwe iaith swyddogol y Cenhedloedd Unedig, ac fe'i defnyddir hefyd fel iaith swyddogol gan yr Undeb Ewropeaidd, Sefydliad Taleithiau America, Undeb Cenhedloedd De America, Cymuned Taleithiau America Ladin a'r Caribî, yr Undeb Affricanaidd a llawer o sefydliadau rhyngwladol eraill.[12]

  1. "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2022-06-25.
  2. Eberhard, David M.; Simons, Gary F.; Fennig, Charles D. (2019). "Summary by language size". Ethnologue. SIL International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 August 2019. Cyrchwyd 3 March 2022.
  3. Salvador, Yolanda Mancebo (2002). "Hacia una historia de la puesta en escena de La vida es sueño". Calderón en Europa (yn Sbaeneg). Vervuert Verlagsgesellschaft. tt. 91–100. doi:10.31819/9783964565013-007. ISBN 978-3-96456-501-3.
  4. "Countries with most Spanish speakers 2021".
  5. Devlin, Thomas Moore (30 January 2019). "What Are The Most-Used Languages On The Internet?". +Babbel Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 December 2021. Cyrchwyd 13 July 2021.
  6. (yn es) La RAE avala que Burgos acoge las primeras palabras escritas en castellano, ES: El Mundo, 7 November 2010, http://www.elmundo.es/elmundo/2010/11/07/castillayleon/1289123856.html, adalwyd 24 November 2010
  7. Rice, John (2010). "sejours linguistiques en Espagne". sejours-linguistiques-en-espagne.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 January 2013. Cyrchwyd 3 March 2022.
  8. Pei, Mario (1949). Story of Language. ISBN 03-9700-400-1.
  9. Robles, Heriberto Camacho Becerra, Juan José Comparán Rizo, Felipe Castillo (1998). Manual de etimologías grecolatinas (arg. 3.). México: Limusa. t. 19. ISBN 968-18-5542-6.
  10. Comparán Rizo, Juan José. Raices Griegas y latinas (yn Sbaeneg). Ediciones Umbral. t. 17. ISBN 978-968-5430-01-2. Cyrchwyd 22 August 2017.
  11. "El español se atasca como lengua científica". Servicio de Información y Noticias Científicas (yn Sbaeneg). 5 March 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 February 2019. Cyrchwyd 29 January 2019.
  12. "Official Languages | United Nations". www.un.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 October 2015. Cyrchwyd 19 November 2015.

Developed by StudentB