Segment o linell

Y diffiniad geometrig o segment o linell caeedig: Mae'r croestoriad o'r holl bwyntiau ar, neu i'r dde o A, ynghyd â'r holl bwyntiau ar, neu i'r chwith o B.
Ysgythriad copr ar bapur gan Jacques Ozanam yn 1699 o segment o linell yn cael ei chreu ar fwrdd.

Mewn geometreg, rhan o linell rhwng dau ddiweddbwynt (a phob pwynt ar y llinell rhwng y diweddbwyntiau hynny) yw segment o linell neu segment o linell agored. Mae'r term segment o linell caeedig yn cynnwys y ddau ddiweddbwynt a segment o linell rhan-agored yn cynnwys un o'r ddau ddiweddbwynt.

Enghraifft o segment o linell yw llinellau triongl neu sgwâr. Pan fo dau ddiweddbwynt polygon neu bolyhedron yn fertigau, yna mae'r segment o linell honno naill ai yn ymyl (os ydynt yn fertigau cyfagos), neu'n groeslin. Pan fo'r diweddbwyntiau, ill dau, yn gorwedd ar gromlin, e.e. cylch, gelwir y segment o linell honno yn "gord"[1] neu "gord y llinell".

  1. geiriadur.bangor.ac.uk; Y Termiadur Addysg - Cerddoriaeth, Ffiseg a Mathemateg; adalwyd 2 Ionawr 2019.

Developed by StudentB