Seland Newydd Aotearoa (Māori) | |
Arwyddair | 100% Pur |
---|---|
Math | teyrnas y Gymanwlad, gwladwriaeth sofran, gwlad, ynys-genedl |
Enwyd ar ôl | Zeeland |
Prifddinas | Wellington |
Poblogaeth | 5,118,700 |
Sefydlwyd | 7 Mai 1856 (Llywodraeth ddemocrataidd) |
Anthem | God Defend New Zealand |
Pennaeth llywodraeth | Christopher Luxon |
Cylchfa amser | UTC+13:00, UTC+12:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Maori, Iaith Arwyddo Seland Newydd, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Awstralasia, Awstralia a Seland Newydd, Teyrnas Seland Newydd |
Gwlad | Seland Newydd |
Arwynebedd | 268,021 km² |
Yn ffinio gyda | Awstralia |
Cyfesurynnau | 41.2°S 174°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Seland Newydd |
Corff deddfwriaethol | Senedd Seland Newydd |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Seland Newydd |
Pennaeth y wladwriaeth | Charles III |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Seland Newydd |
Pennaeth y Llywodraeth | Christopher Luxon |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $255,552 million, $247,234 million |
CMC y pen | $41,667 |
Arian | New Zealand dollar |
Canran y diwaith | 6 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.87 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.937 |
Gwlad yn y Cefnfor Tawel sydd yn cynnwys dwy ynys fawr (Ynys y Gogledd ac Ynys y De) a nifer o ynysoedd bychain yw Seland Newydd (Saesneg: New Zealand, Maori: Aotearoa). Yn iaith y Maori, pobl wreiddiol y wlad, Aotearoa yw ei henw, a chyfieithir yr enw yn aml fel "gwlad o dan gwmwl gwyn hir". Yn ôl y chwedlau, roedd cwmwl gwyn uwchben uwch pan ddaeth y bobl gyntaf i'r wlad. Yn ôl y Cyfrifiad Cenedlaethol diweddaraf, roedd poblogaeth y wlad yn 5,118,700 (31 Rhagfyr 2021).
Auckland ar Ynys y Gogledd yw'r ddinas fwyaf, ond Wellington (ar yr un ynys) yw'r brifddinas. Christchurch yw'r ddinas fwyaf ar Ynys y De. Y mynydd uchaf yw Aoraki/Mynydd Cook (3,754 m (12,316')) ar Ynys y De. Awstralia yw'r wlad agosaf. Mae Caledonia Newydd, Ffiji a Thonga i'r gogledd, ond cryn bellter i ffwrdd. Er gwaethaf yr enw, dydy'r môr o gwmpas yr ynysoedd ddim yn dawel o gwbl yn aml, ac mae'n gallu ei gwneud yn anodd i hwylio ar draws y Culfor Cook rhwng y ddwy brif ynys.
Y chwaraeon poblogaidd yw Rygbi, criced, pêl-droed a phêl-droed rheolau Awstralaidd. Enw tîm rygbi cenedlaethol Seland Newydd yw'r Crysau Duon (mae eu gwisg yn gwbwl ddu). Mae'r ddawns ryfel "Haka" yn cael ei gwneud yn aml cyn eu gêmau.
Mae'r aderyn Kiwi yn symbol o'r wlad, a defnyddir Kiwi yn anffurfiol fel enw neu ansoddair am y wlad neu'r bobl.
Ynysoedd Seland Newydd oedd y tiroedd cyfanheddol mawr olaf i gael eu anheddu gan bobl. Rhwng tua 1280 a 1350, dechreuodd Polynesiaid ymgartrefu ar yr ynysoedd a datblygwyd y diwylliant Māori nodedig. Yn 1642, y fforiwr o'r Iseldiroedd Abel Tasman oedd yr Ewropead cyntaf i weld Seland Newydd. Yn 1840, llofnododd cynrychiolwyr penaethiaid y Deyrnas Unedig gytundeb a'r Maoriaid, sef Cytundeb Waitangi, a ddatganodd hawl a sofraniaeth Prydain dros yr ynysoedd. Yn 1841, daeth Seland Newydd yn wladfa (colony) o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig, ac ym 1907 daeth yn arglwyddiaeth (dominion); enillodd annibyniaeth statudol lawn ym 1947, ac arhosodd brenhiniaeth Prydain yn bennaeth y wladwriaeth, sef pyped mewn enw'n unig. Heddiw, mae mwyafrif poblogaeth Seland Newydd o 5 miliwn o dras Ewropeaidd; y Māori brodorol yw'r lleiafrif mwyaf, ac yna Asiaid ac Ynyswyr y Môr Tawel. Gan adlewyrchu hyn, mae diwylliant Seland Newydd yn deillio'n bennaf o'r Māori ac ymsefydlwyr cynnar o Loegr, gydag ehangu diweddar yn deillio o fwy a mwy o fewnfudo . Yr ieithoedd swyddogol yw Saesneg, Māori, ac Iaith Arwyddion Seland Newydd.