Senedd Cymru Welsh Parliament | |
---|---|
Y Chweched Senedd | |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Math | Unsiambraeth |
Arweinyddiaeth | |
Y Llywydd | Elin Jones, Plaid Cymru |
Y Dirprwy Lywydd | David Rees, Llafur |
Y Trefnydd | Jane Hutt, Llafur |
Prif Weinidog Cymru | Vaughan Gething, Llafur |
Arweinyddion yr Wrthbleidiau | Andrew R. T. Davies (Ceidwadwyr), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Y Clerc | Manon Antoniazzi |
Cyfansoddiad | |
Aelodau | 60 |
Grwpiau gwleidyddol | Llywodraeth (30)
Gwrthbleidiau (30)
|
Pwyllgorau |
|
Etholiadau | |
Etholiad diwethaf | 6 Mai 2021 |
Etholiad nesaf | 7 Mai 2026 |
Man cyfarfod | |
Y Senedd, Bae Caerdydd | |
Gwefan | |
senedd.cymru |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.[1] Rhwng Mai 1999 a Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales).[2][3] Sefydlwyd y Cynulliad ym 1999 ar ôl cynnal refferendwm ym 1997.
Ceir 60 o aelodau, neu 'Aelodau o'r Senedd' (AS) a etholir (ers 2011) am dymor o bum mlynedd; mae 40 ohonynt yn cynrychioli etholaeth ddaearyddol ac 20 yn cael eu hethol dan drefn cynrychiolaeth gyfrannol dull D'Hondt dros y pum etholaeth ranbarthol yng Nghymru. Mae'r Senedd yn gweithredu system un siambr, hynny yw, nid oes 'ail siambr' i ddeddfwrfa Cymru.
Ffurfiwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998, a oedd yn ymateb i Refferendwm datganoli i Gymru, 1997.[4] Mae'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y corff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Senedd Cymru.[5]
Yr enw ar gorff corfforaethol Senedd Cymru yw Comisiwn y Senedd.