Math | national capital |
---|---|
Enwyd ar ôl | prifddinas |
Prifddinas | Jung District |
Poblogaeth | 9,668,465 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Oh Se-hoon |
Cylchfa amser | UTC+09:00 |
Gefeilldref/i | San Francisco, Cairo, Jakarta, Delhi Newydd, Taipei, Ankara, Gwam, Tehran, Bogotá, Tokyo, Moscfa, Sydney, Beijing, Ulan Bator, Hanoi, Warsaw, Astana, Athen, Washington, Bangkok, Tirana, São Paulo, Delhi, Buenos Aires, Dinas Mecsico, Rio de Janeiro, Honolulu County, Paris, Rhufain, Dinas Efrog Newydd, Honolulu, Bandung, Kyiv |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Coreeg |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Seoul Fwyaf |
Gwlad | De Corea |
Arwynebedd | 605.25 km² |
Uwch y môr | 38 metr |
Gerllaw | Afon Han, Cheonggyecheon, Jungnangcheon, Anyangcheon, Tancheon, Yangjaecheon |
Yn ffinio gyda | Talaith Gyeonggi, Incheon |
Cyfesurynnau | 37.56°N 126.99°E |
KR-11 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Fetropolitan Seoul |
Corff deddfwriaethol | Cyngor trefol Seoul |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Seoul |
Pennaeth y Llywodraeth | Oh Se-hoon |
Seoul (Coreeg: 서울) yw prifddinas De Corea a'r ddinas fwyaf yn y wlad, gyda phoblogaeth o dros 9,668,465 (2020)[1] ac mae gan Seoul Fwyaf boblogaeth o 24,105,000 (2016)[2].
Saif y ddinas yn nalgych Afon Han yng ngogledd-orllewin y wlad, tua 50 km i'r de o'r ffin â Gogledd Corea. Ceir y cofnod cyntaf amdani yn 18 CC, pan sefydlodd teyrnas Baekje ei phrifddinas Wiryeseong yn yr hyn sy'n awr yn dde-ddwyrain Seoul. Tyfodd dinas Seoul ei hun o ddinas Namgyeong. Saif y ddinas yn Ardal Prifddinas Genedlaethol Seoul, sydd hefyd yn cynnwys porthladd Incheon a llawer o faestrefi, ac sydd a phoblogaeth o tua 23 miliwn. Mae bron hanner poblogaeth De Corea yn byw yn yr ardal yma.
Yn 2014, dinas Seoul oedd y 4edd dinas fetropolitan fwyaf ei heconomi yn y byd ar ôl Tokyo, Efrog Newydd a Los Angeles.[3] Yn 2017, roedd costau byw yn y ddinas y 6ed uchaf yn y byd.[4][5] Gyda chanolfannau technoleg enfawr wedi eu canoli yn Gangnam a'r Ddinas Cyfryngau Digidol, mae Seoul Fwyaf yn gartref i bencadlys 14 o gwmniau mwya'r byd, sef y Fortune Global 500, gan gynnwys Samsung, LG, a Hyundai.[6][7]
Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yma yn 1988 a gêm derfynol Cwpan y Byd Pêl-droed 2002; yma hefyd oedd cynhadledd y G-20 yn 2010.
Wedi'i lleoli'n strategol ar hyd glannau Afon Han, mae hanes y ddinas yn ymestyn yn ôl dros ddwy fil o flynyddoedd, ers ei sefydlu yn 18 CC gan bobl Baekje, un o Dair Teyrnas Corea. Yn 1394 dynodwyd y ddinas yn brifddinas Corea o dan y Brenhinllin Joseon (1392-1897), ac yn 1948 yn brifddinas De Corea. Amgylchynir y ddinas gan ardal fynyddig a bryniog, gyda Mynydd Bukhan ar ymyl ogleddol y ddinas. Mae gan Seoul Fwyaf (neu weithiau 'Ardal Prifddinas Seoul') bum Safle Treftadaeth y Byd UNESCO: Changdeok Palace, Caer Hwaseong, Cysegrfa Jongmyo, Namhansanseong a Beddrodau Brenhinol y Brenhinllin Joseon.[8]