|
Uned filwrol fechan, yn aml yr uned ymgyrchol barhaol leiaf ei maint o droedfilwyr yn y fyddin, yw sgwad. Mae'n is-uned i'r platŵn, sydd fel arfer yn cynnwys tri neu bedwar o sgwadiau, a phob un yn cynnwys rhyw saith i 14 o filwyr dan orchymyn swyddog digomisiwn.[1] Gallai sgwad gael ei rannu yn ddau neu dri mân-drefniant, megis "tîm tân" neu griw, sydd o esielon is (o bosib dan orchymyn corporal) ond nid yn uned ynddo'i hun. Yn ôl diffiniadau NATO o esielonau ar gyfer lluoedd y tir, trefniant sydd yn fwy na thîm ac yn llai nag adran fach (section) yw sgwad, a ddynodir gan symbol yr un ysmotyn (●).[2]
Yn y Fyddin Brydeinig, defnyddir squad i gyfeirio at griw o filwyr dros dro a ffurfir at ddiben penodol, er enghraifft ymarferiad neu berwyl.[3] Yr enw ar yr uned leiaf o filwyr, sydd yn cyfateb i'r sgwad mewn byddinoedd eraill, yw section. Mewn rhai byddinoedd eraill, mae section (adran fach) yn cynnwys 10 i 40 o filwyr.[1]
Ym Myddin yr Unol Daleithiau, gall sgwad fod yn uned o naw troedfilwr, fel arfer wedi eu rhannu yn ddau dîm tân a dan orchymyn sarsiant, neu yn uned o saith marchfilwr arfogedig. Yng Nghorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau, mae sgwad yn cynnwys 13 môr-filwr, fel arfer wedi eu rhannu yn dri thîm tân.[3]