Siarlymaen | |
---|---|
Ganwyd | Karlus 740s Francia, Liège, Aachen |
Bu farw | 28 Ionawr 814 Aachen |
Dinasyddiaeth | Francia |
Galwedigaeth | teyrn, brenin neu frenhines |
Swydd | dug Bafaria, brenin y Ffranciaid, brenin y Lombardiaid, Ymerawdwr Glân Rhufeinig |
Dydd gŵyl | 18 Ionawr |
Taldra | 1.84 metr |
Tad | Pepin Fychan |
Mam | Bertrada o Laon |
Priod | Desiderata o Lombardia, Hildegard, Fastrada, Luitgard, Himiltrude |
Partner | Regina, Himiltrude, Madelgard, Gersuinda, Ethelind |
Plant | Pepin Cefngrwm, Siarl yr Ieuengaf, Rotrude, Bertha, Pepin o'r Eidal, Louis Dduwiol, Gisela, Theodrada, Drogo, Hugh, Alpais, Adelaide, Lothair, Hildegard, Chrotais, Hiltrude, Ruodhaid, Theodoric, Adaltrude |
Llinach | Y Carolingiaid |
llofnod | |
Roedd Siarlymaen (748[1] neu 742 neu 747 – 28 Ionawr 814) yn frenin y Ffranciaid o 768 ymlaen ac yn ymerawdwr 25 Rhagfyr, 800 pan y coronwyd ef gan Bab Leo III yn Rhufain. Carolus Magnus oedd ei enw ef yn Lladin, a Charlemagne yn Ffrangeg. Ei deitl lawn o 800 ymlaen oedd: Karolus serenissimus augustus a Deo coronatus magnus pacificus imperator Romanum imperium gubernans qui et per misericordiam dei rex Francorum atque Langobardorum (Cyfieithiad rydd: Siarl rheolwr araul urddasol, coronwyd gan Dduw, rheolwr sydd yn rheoli'r Ymerodraeth Rufeinig ac yn creu hedd mawr, gyda chaniatâd Duw yn frenin y Francaid a'r Langobardaid). Ystyrir mai ef oedd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig cyntaf.[2]