Sieffre o Fynwy | |
---|---|
Ganwyd | c. 1100 Trefynwy |
Bu farw | c. 1155 Eglwys Gadeiriol Llandaf |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, hanesydd, llenor, offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | Esgob Llanelwy, esgob esgobaethol |
Adnabyddus am | Historia Regum Britanniae, Prophetiae Merlini, Vita Merlini |
Clerigwr ac Esgob Llanelwy oedd Sieffre o Fynwy, Lladin Galfridus Monemutensis (c.1100 - c.1155). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur llyfrau Lladin am hanes cynnar Ynys Prydain, yn enwedig am y Brenin Arthur. Er nad oes dim gwerth iddynt fel hanes, cawsant ddylanwad enfawr yng Nghymru a thrwy orllewin Ewrop.