Sir y Fflint

Sir y Fflint
ArwyddairGOROU TARIAN, CYFIAWNDER Edit this on Wikidata
Mathprif ardal Edit this on Wikidata
Poblogaeth155,593 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1996 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iMenden (Sauerland), Murata Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd437.4901 km² Edit this on Wikidata
GerllawBae Lerpwl, Aber Afon Dyfrdwy Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGorllewin Swydd Gaer a Chaer, Sir Ddinbych, Bwrdeistref Fetropolitan Cilgwri, Wrecsam, Swydd Gaer Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2175°N 3.1432°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW06000005 Edit this on Wikidata
GB-FLN Edit this on Wikidata
Map
Logo y Cyngor

Sir yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Sir y Fflint (Saesneg: Flintshire). Llywodraethir y sir gan yr awdurdod llywodraeth leol Cyngor Sir y Fflint. Crëwyd y sir bresennol pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru yn 1996.

Daw'r enw "Sir y Fflint" o'r hen sir a sefydlwyd ym 1536 a barodd tan 1974 pan gafodd ei diddymu o dan Ddeddf Llywodraethu Lleol 1972. Cafodd ei hail-sefydlu ym 1996 o dan Ddeddf Llywodraethu Lleol (Cymru) 1994 ond nid yw'r ffiniau presenol yn dilyn yr un ffiniau ac mae'r sir bellach yn llai nag y bu.

Ymhlith siaradwyr Cymraeg yr ardal, tueddir i ollwng y fanod yn yr enw wrth gyfeirio at y sir - Sir Fflint. Mae tafodiaith unigryw iawn yn yr ardal sy' bellach dan fygythiad tafodieithoedd gorllewinol y Gymraeg. Mae rhai hen gyhoeddiadau yn cyfeirio at y sir fel Sir (neu Swydd) Gallestr.[1]

  1. Y Dysgedydd Crefyddol Cyf. XI rhif. 124 - Ebrill 1832 Boblogowydd gwahanol sir oedd Cymru ar wahan]

Developed by StudentB