Spike Milligan | |
---|---|
Ganwyd | Terence Alan Milligan 16 Ebrill 1918 Ahmednagar |
Bu farw | 27 Chwefror 2002 Rye |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | sgriptiwr, llenor, digrifwr, newyddiadurwr, actor llwyfan, actor ffilm, bardd, actor, cerddor, actor teledu, dramodydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | KBE, Chortle Awards, CBE |
Digrifwyr, actor, bardd ac awdur Prydeinig-Wyddelig oedd Terence Alan Patrick Seán "Spike" Milligan KBE (16 Ebrill 1918 – 27 Chwefror 2002).
Ganwyd Milligan yn India, ei dad yn Wyddel a'i fam yn Saesnes. Treuliodd ei blentyndod yno, cyn dychwelyd i fyw a gweithio am rhan fwyaf o'i fywyd yn y Deyrnas Gyfunol. Nid oedd yn hoff o'i enw cyntaf a cychwynodd alw ei hun yn "Spike" ar ôl clywed band ar Radio Luxembourg o'r enw [Spike Jones and his City Slickers.[1][1][2][3]
Roedd Milligan yn un o gyd-greawdwyr, prif ysgrifenwyr a phrif aelod cast y rhaglen radio Brydeinig arloesol a dylanwadol The Goon Show, gan berfformio nifer o rannau yn cynnwys y cymeriad poblogaidd Eccles a Minnie Bannister. Ef oedd aelod hynaf o'r Goons, a'r hiraf i oroesi. Aeth Milligan o lwyddiant y Goon Show i fyd teledu gyda chyfres Q5, sioe sgets swreal a gydnabyddwyd fel dylanwad pwysig ar aelodau Monty Python's Flying Circus.
|deadurl=
ignored (help)
|date=
(help)