Math | de jure national capital |
---|---|
Poblogaeth | 115,826 |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sinhaleg, Tamileg, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Colombo |
Gwlad | Sri Lanca |
Arwynebedd | 17,000,000 m² |
Uwch y môr | 27 metr |
Gerllaw | Diyawanna Lake |
Cyfesurynnau | 6.9°N 79.9164°E |
Cod post | 10100 |
Prifddinas swyddogol Sri Lanca yw Sri Jayewardenapura Kotte, ar lafar Kotte. Saif i'r dwyrain o ddinas Colombo, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 115,826.
Kotte, sy'n golygu "caer", oedd prifddinas hen deyrnas Kotte o'r 14eg hyd y 16g. Fe'i sefydlwyd ar lan afon Diyawanna Oya. Yn ddiweddarach, daeth yn brifddinas yr ynys dan yr enw 'Sri Jaya Vardhana Pura Kotte' gegeven, wat betekent 'de gezegende versterkte stad van de groeiende overwinning'. Cipiwyd y ddinas gan y Portiwgeaid yn 1565, a gwnaethant hwy Colombo yn brifddinas yn ei lle.
Aeth y ddinas yn adfail am gyfnod, ond fe'i hail-adeiladwyd yn y 19g. Yn 1977, penderfynodd y llywodraeth y dylai ddod yn brifddinas yr ynys unwaith eto, a bu llawer o waith adeiladu cyn iddi ddod yn brifddinas yn 1982.