Stegosaurus Amrediad amseryddol: Jwrasig Hwyr, 155–150 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Ysgerbwd S. stenops, Amgueddfa Natural History Museum, Llundain | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Urdd: | †Ornithischia |
Is-urdd: | †Stegosauria |
Teulu: | †Stegosauridae |
Genws: | †Stegosaurus |
Teiprywogaeth | |
†Stegosaurus stenops Marsh, 1887 | |
Rhywogaethau eraill | |
| |
Cyfystyron | |
|
Math o ddinosor yw'r Stegosaurus, sy'n aelod o genws thyreophora; difodwyd y rhywogaeth tua 150 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).
Mae ffosiliau'r genws hwn yn dyddio i'r cyfnod Jwrasig Hwyr, lle cânt eu canfod yn rhwng yr haenau Kimmeridgian a'r Tithonian, rhwng 155 a 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn nwyrain Unol Daleithiau America a Phortiwgal. O'r rhywogaethau a ddosbarthwyd yn yr haen ddaearegol a elwir yn 'Ffurfiad Morrison', yng ngorllewin UDA, dim ond tair rhywogaeth sy'n cael eu cydnabod fel arfer: S. stenops, S. ungulatus a S. sulcatus. Mae olion dros 80 o anifeiliaid unigol o'r genws hwn wedi'u canfod.[1]
Byddai'r Stegosaurus wedi byw ochr yn ochr â deinosoriaid megis Apatosaurus, Diplodocus, Brachiosaurus, Allosaurus, a'r Ceratosaurus; gallai'r ddau olaf fod wedi bod yn ysglyfaethwyr ohono.
Roedd y Stegosaurus yn anifail enfawr, ar bedair coes, ac yn drwm iawn.
Oherwydd fod ganddo blatiau bras, unionsyth ar ei gefn a chynffon pigog, dyma un o'r mathau mwyaf adnabyddus o ddeinosoriaid. Mae swyddogaeth y platiau a'r pigauau (neu'r 'ysbigau') wedi bod yn destun llawer o ddyfalu ymhlith naturiaethwyr. Heddiw, cytunir yn gyffredinol bod y cynffonau sydd wedi eu sbotio'n fwyaf tebygol o gael eu defnyddio ar gyfer amddiffyn rhag ysglyfaethwyr, er y byddai eu platiau wedi'u defnyddio'n bennaf i'w harddangos, ac yn ail ar gyfer oeri a chynhesu'r corff.
Roedd gan Stegosaurus gymhareb màs o ymennydd i gorff cymharol isel. Roedd ganddo wddf byr a phen bach, sy'n golygu ei fod yn fwy tebygol o fwyta planhigion a llwyni isel. Y Stegosaurus ungulatus yw'r rhywogaeth mwyaf poblogaidd o'r holl stegosauriaid.[2]