Steve Jones | |
---|---|
Ganwyd | John Stephen Jones 24 Mawrth 1944 Aberystwyth |
Man preswyl | Camden |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth, Doethuriaeth mewn Gwyddoniaeth |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | genetegydd, academydd, gwyddonydd, cyflwynydd teledu, athro cadeiriol, llenor |
Cyflogwr | |
Priod | Norma Percy |
Gwobr/au | Seciwlarydd y Flwyddyn, Medal Trichanrif Linnean, Gwobr Llyfr y Byd Naturiol, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Biolegydd ac awdur o Gymru yw Steve Jones (ganwyd 24 Mawrth 1944).
Ganwyd Steve Jones yn Aberystwyth, a bu ym Mhrifysgol Caeredin a Phrifysgol Chicago cyn cael ei benodi'n Athro Geneteg yng Ngholeg y Brifysgol Llundain ac yn bennaeth labordy enwog Galton.
Ym 1996 enillodd Fedal Faraday y Gymdeithas Frenhinol am ehangu gwybodaeth y cyhoedd mewn geneteg ac esblygiad. Dros y blynyddoedd mae wedi cyflwyno'r maes hwn yn syml iawn i bobol gyffredin. Darwin, mae'n debyg yw ei arwr mawr ac mae wedi ysgrifennu am esblygiad.
Yn ei lyfr The Descent of Men mae'n croniclo dirywiad cyflwr y cromosom 'Y' ac yn dangos sut (yn ei farn ef) mae'r rhyw gwryw am ddod i ben ymhen rhai miloedd o flynyddoedd.