Math | ynysfor, tiriogaeth dramor gyfannol, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf |
---|---|
Prifddinas | Longyearbyen |
Poblogaeth | 2,668 |
Pennaeth llywodraeth | Kjerstin Askholt |
Cylchfa amser | CET |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Norwyeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Norwy |
Gwlad | Norwy |
Arwynebedd | 61,022 ±1 km² |
Uwch y môr | 1,713 metr |
Gerllaw | Môr Norwy |
Cyfesurynnau | 78.16°N 15.86°E |
NO-21 | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Svalbard |
Pennaeth y Llywodraeth | Kjerstin Askholt |
Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site |
Manylion | |
Arian | krone Norwy |
Ynysfor yn yr Arctig sy'n perthyn i Norwy yw Svalbard. Cyfeirir ato'n aml, yn anghywir, fel Spitsbergen ar ôl yr ynys fwyaf. Yr ynysoedd hyn yw'r rhan fwyaf gogleddol o Norwy. Dim ond ar dair o'r ynsoedd, Spitsbergen, Bjørnøya a Hopen, y mae poblogaeth barhaol. Yn ôl amcangyfrif 2019 roedd gan Svalbard boblogaeth o 2,939.[1] Longyearbyen yw'r tref fwyaf a phrifddinas yr ynysoedd.
Yr ynysoedd mwyaf yw Spitsbergen (39.000 km²), Nordaustlandet (14.600 km²) ac Edgeøya (5.000 km²); mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Ymhlith yr ynysoedd eraill mae Barentsøya, Lågøya, Hopen, Danskøya, Kvitøya a Wilhelmøya. Y copa uchaf yw Newtontoppen (1,717 medr). Gorchuddir 60% o Svalbard gan rew. Ceir nifer fawr o adar yma, ac mae Svalbard yn arbennig o bwysig oherwydd y niferoedd o'r Ŵydd wyran (Branta leucopsis) a'r Ŵydd droedbinc sy'n nythu yma.