Rhan o gyfres ar |
---|
Arferion |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Sunni · Shi'a |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Enwad fwyaf Islam yw Swnni[1] neu Islam Swnni. Cyfeirir at Islam Swnni fel Ahl as-Sunnah wa’l-Jamā‘ah (Arabeg: أهل السنة والجماعة "pobl [sy'n dilyn] esiampl (Mohamed) a'r Gymuned") hefyd neu Ahl as-Sunnah (Arabeg: أهل السنة). Daw'r gair 'Swnni' o'r gair Sunnah (Arabeg: سنة), sy'n golygu geiriau neu weithredoedd neu esiampl Mohamed, proffwyd Islam.
Mae tua 85% neu ragor o Fwslemiaid yn Swnni. Yr enwad ail fwyaf yw Islam Shïa (rhwng 15% a 20% o Fwslemiaid), sydd i'w cael yn bennaf yn Iran, de Irac, Iemen a rhannau o Syria, Libanus ac Affganistan: y tu allan i'r cadarnleoedd hynny mae'r Swnni yn ffurffio'r mwyafrif llethol yn y gwledydd Islamig, o'r Maghreb i Indonesia.
Deilliodd y gwahaniaethau rhwng Mwslimiaid Swnni a Shïa o anghytundeb ynghylch yr olyniaeth i Muhammad ac o ganlyniad daeth arwyddocâd gwleidyddol ehangach a pgegynu barn, yn ogystal â dimensiynau diwinyddol a barnwrol. Yn ôl traddodiadau Swnni, ni adawodd Muhammad unrhyw olynydd. Penododd cyfranogwyr y Saqifah dyn o'r enw Abu Bakr fel y nesaf yn y llinell (hy y califf cyntaf).[2][3] Mae hyn yn wahanol i farn y Shïa, sy'n credu bod Muhammad wedi penodi ei fab-yng-nghyfraith a chefnder Ali ibn Abi Talib yn olynydd iddo.[4]
Cyfeirir at ymlynwyr y Swnni mewn Arabeg yn ahl as-sunnah wa l-jamāʻah ("pobl y Sunnah a'r gymuned") neu ahl as-Sunnah, yn fyr. Gelwir eu hathrawiaeth a'u harferion weithiau'n Swnnïaeth,[5] tra bod ymlynwyr yn cael eu hadnabod fel Mwslemiaid Swnni, Swnnïaid, ac Ahlus Sunnah. Cyfeirir at Swnni weithiau fel "Islam uniongred",[6][7][8] er bod rhai ysgolheigion yn ystyried y cyfieithiad hwn yn amhriodol.[9]
Mae gan y Coran, ynghyd â'r hadith (yn enwedig y rhai a gasglwyd yn Kutub al-Sittah) gonsensws cyfreithiol rhwymol, ac felly'n sail i bob deddf draddodiadol o fewn Islam Swnni. Mae dyfarniadau Sharia yn deillio o'r ffynonellau sylfaenol hyn, ar y cyd â rhesymu, ystyriaeth o les y cyhoedd a disgresiwn cyfreitheg, gan ddefnyddio egwyddorion cyfreitheg a ddatblygwyd gan yr ysgolion cyfreithiol traddodiadol. Mewn materion sy'n ymweneud a chredo, mae traddodiad Swnni yn cynnal chwe cholofn imān (ffydd) ac yn cynnwys ysgolion Ash'ari a Maturidi o Kalam (diwinyddiaeth) yn ogystal â'r ysgol destunol a elwir yn ddiwinyddiaeth draddodiadol.
The Shi'a unequivocally take the word in the meaning of leader, master and patron and therefore the explicitly nominated successor of the Prophet. The Sunnis, on the other hand, interpret the word mawla in the meaning of a friend or the nearest kin and confidant.