Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, mudiad diwylliannol, arddull mewn celf |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1920s |
Dechreuwyd | 1920s |
Daeth i ben | 1980s |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cysyniad neu athroniaeth yw Swrealaeth, sy'n honni y gellir rhyddhau'r meddwl, ac yna rhyddhau'r unigolyn a'r gymdeithas, trwy defnyddio cynneddfau dychmygol yr isymwybod, a chyrraedd cyflwr breuddwydiol sy'n wahanol i (neu hyd yn oed yn mwy gwir na) realiti pob dydd. Creda Swrealwyr y gall y realiti hwn greu chwyldro personol, diwylliannol, a chymdeithasol, a bywyd o ryddid, barddoniaeth a rhywioldeb di-derfyn. Dywedodd André Breton y byddai gwir datguddiedig o'r fath yn wynfydedig.
Roedd mudiad swrealaeth yn ddylanwadol iawn ym mywyd diwylliannol Ffrainc, Sbaen a'r Eidal yn ail chwarter yr 20g.