Yng nghysylltiadau rhyngwladol, defnyddir system ryngwladol (neu System Ryngwladol) yn nau gyd-destun: fel disgrifiad cyffredin, neu fel lefel dadansoddi.
Fel disgrifiad, mae system ryngwladol yn gyfystyr â'r system wladwriaethau, ond rhoddir pwyslais ar ddeall cysylltiadau rhyngwladol yn nhermau dadansoddi systemau. Ystyrid grwpiau mewnwladol yn is-systemau, a chaiff polisi tramor ei ffurfio yn erbyn amgylchedd allanol y system ryngwladol.[1] Mae gan lunio a gweithredu polisi tramor effaith ddylanwadol dros ben ar y system, ac felly dywed rhai bod is-systemau yn dominyddu'r system ryngwladol.[2]
Yn ei hail ystyr, ystyrid y system ryngwladol yn un o lefelau dadansoddi cysylltiadau rhyngwladol. Mae nodweddion y system yn effeithio ar weithredyddion unigol y lefelau eraill, er enghraifft mae'n rhaid i bob gwladwriaeth ystyried natur anarchaidd y system ryngwladol wrth sicrhau eu diogelwch cenedlaethol.[1]