Amrywiad o iaith sydd yn nodweddiadol o grŵp penodol o siaradwyr yw tafodiaith. Gwelir tafodieithoedd gwahanol mewn rhanbarthau daearyddol gwahanol, ond gall hefyd gweld gwahaniaethau rhwng y ffordd siarader iaith o ganlyniad i ffactorau eraill, e.e. dosbarth cymdeithasol. Weithiau caiff tafodiaith ei chymysgu ag acen; cyfeirir acen at ynganiad nodweddiadol yn unig, tra bo tafodiaith yn cynnwys gramadeg a geirfa llafar hefyd. Gelwir astudiaeth tafodieithoedd yn dafodieitheg.