Enghraifft o'r canlynol | enw, gwlad mewn chwaraeon, tiriogaeth ddadleuol |
---|---|
Prif bwnc | status quo in the Taiwan Strait |
Aelod o'r canlynol | APEC, Asian Development Bank, Central American Bank for Economic Integration |
Enw brodorol | 中華臺北 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Taipei Tsieineaidd | |||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Tsieineeg traddodiadol | 中華臺北 neu 中華台北 | ||||||||||||||||||||||||||||
Tsieineeg syml | 中华台北 | ||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||
Tiriogaeth Tollau Ar Wahân Taiwan, Penghu, Kinmen, a Matsu | |||||||||||||||||||||||||||||
Tsieineeg traddodiadol | 臺澎金馬個別關稅領域 | ||||||||||||||||||||||||||||
Tsieineeg syml | 台澎金马个别关税领域 | ||||||||||||||||||||||||||||
Romanization]]| style="width: 50%" | {{{gan4}}}
|
Enw a ddefnyddir gan wlad Taiwan neu Weriniaeth Tsieina wrth gystadlu mewn nifer o ddigwyddiadau rhyngwladol yw Taipei Tsieineaidd. Yng nghyd-destun yr anghydfod rhwng Taiwan a Gweriniaeth Pobl Tsieina dros statws y wlad, dadl nas torrwyd ers diwedd Rhyfel Cartref Tsieina, cytunodd y ddwy lywodraeth i gydnabod ei gilydd parthed y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. Yn unol â thelerau'r cytundeb cyfaddawdol a elwir yn Ddatrysiad Nagoya (1979), mae'n rhaid i dîm Taiwan defnyddio'r enw Taipei Tsieineaidd ar y lefel ryngwladol; Taipei yw prifddinas Taiwan. Defnyddir yr enw wrth gymryd rhan yn y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd, Gemau Asia, Para-Gemau Asia, yr Universiade, Cwpan y Byd Pêl-droed, ac ambell digwyddiad a sefydliad arall megis Miss Universe, Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF). Yn ogystal â'r enw Taipei Tsieineaidd, defnyddir baneri ac anthem amgen.
Mae'r ymadrodd yn amwys o fwriad fel ei bod yn dderbyniol ar naill ochr Culfor Taiwan. Er i Taiwan wrthod yr enw i ddechrau, cytunodd ym 1981 a chafodd ei ddefnyddio'n gyntaf yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 1984.[1] O safbwynt Gweriniaeth Pobl Tsieina, nid yw'r enw yn dynodi statws annibynnol Taiwan nac yn cyfeirio at sofraniaeth y diriogaeth honno, ac felly'n cydymffurfio â pholisi "Un Tsieina" llywodraeth Beijing, sy'n parháu i hawlio'r ynys. Roedd y Kuomintang, plaid lywodraethol Taiwan adeg y cytundeb, yn gweld yr enw yn eang ei ystyr ac yn awgrymu taw un rhan o Tsieina'n unig oedd Taiwan, gan yr oedd y blaid yn ystyried ei hun yn wir lywodraeth holl Tsieina. Croesawodd Beijing y cyfle i atal defnydd yr "enw cenedlaethol" Taiwan yn llygad y byd, ac yr oedd Taipei yn fodlon i beidio â defnyddio'r dewis arall "Taiwan, Tsieina", a ellir ei weld yn disgrifio Taiwan yn rhan o Weriniaeth Pobl Tsieina.[2]