Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | teulu |
Rhiant dacson | Theraphosoidea |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae tarantwlaod yn grwp o arachnidau blewog sy'n perthyn i deulu pryfaid cop Theraphosidae, sy'n cynnwys tua 900 o rywogaethau hyd yma. Mae rhai rhywogaethau wedi dod yn boblogaidd yn y fasnach anifeiliaid anwes ecsotig. Mae gan rai rhywogaethau Byd Newydd sy'n cael eu cadw fel anifeiliaid anwes flew sy'n pigo sy'n gallu achosi llid ar y croen ac, mewn achosion eithafol, achosi difrod i'r llygaid. Mae gan y taratula frathiad gwenwynig sy'n tynnu ei ysglyfaeth i lawr llai ac yna'i hun.
Mae meintiau tarantwlaod yn amrywio o rai sydd mor fach ag ewin bys i rai mor fawr a phlat bwyd pan mae eu coesau wedi'u hymestyn. Gan ddibynnu ar y rhywogaeth, mae hyd corff taratwlaod yn ymestyn o 2.5 i 10 cm (1 - 4 modfedd), gyda lled coesau o 8-30cm (3-12 modfedd). Mae lled y coesau yn cael ei benderfynu trwy fesur o ben y goes ôl i flaen y goes flaen ar yr ochr arall. Gall rhai o'r rhywogaethau mwyaf o taratwla bwyso dros 85 gram (3 owns), ac mae adroddiadau bod y mwyaf o'r cyfan, y Theraphosa blondi o Feneswela a Brasil, yn gallu cyrraedd pwysau o 170 gram (12 modfedd) a lled coesau o 30 cm (12 modfedd).
Y pryf copyn cyntaf i gael yr enw "tarantwla" oedd Lycosa tarantula, rhywogaeth o fleiddgopyn oedd yn dod yn wreiddiol o Ewrop Ganoldirol.[1] Mae'r enw yn deillio o "Taranto", tref yn ne yr Eidal. Defnyddiwyd y term "tarantwla" wedi hynny i bron unrhyw rywogaeth o bryf copyn oedd yn fawr ac anghyfarwydd, yn enwedig y Mygalomorphae ac yn arbennig Theraphosidae y Byd Newydd.