Math | dinas Iran, mega-ddinas, dinas global, national capital |
---|---|
Poblogaeth | 8,693,706 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Alireza Zakani |
Cylchfa amser | UTC+03:30, Cylchfa Amser Iran, UTC+04:30 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Perseg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Tehran |
Sir | Central District |
Gwlad | Iran |
Arwynebedd | 686 km² |
Uwch y môr | 1,179 metr |
Cyfesurynnau | 35.7°N 51.42°E |
Cod post | 13ххх-15ххх |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Tehran |
Pennaeth y Llywodraeth | Alireza Zakani |
Arian | rial Iranaidd |
Tehran (Perseg: تهران) yw prifddinas Iran a thalaith Tehran, yng ngogledd canolbarth y wlad. Mae poblogaeth y ddinas ei hun dros 8,693,706 (2016)[1][2] a'r fetropolis ehangach dros 13,805,000 (2016)[3] sy'n ei gwneud y ddinas fwyaf yng ngorllewin Asia a.r ail fwyaf yn y Dwyrain Canol, ar ôl Cairo yn yr Aifft. Gorwedda yng ngogledd canolbarth y wlad wrth droed mynyddoedd Elburz. Daeth Tehran yn brifddinas y wlad yn 1788.
Yn yr oes Glasurol. neu gyn-hanes, meddiannwyd rhan o diriogaeth Tehran gan Rhages, dinas amlwg lle trigai'r Medes. Ymosodwyd ar y ddinas trwy oresgyniadau canoloesol Arabaidd, yr Ymerodraeth Otomanaidd (o Dwrci) a gan Ymerodraeth y Mongol. Dewiswyd Tehran yn brifddinas Iran gyntaf gan Agha Mohammad Khan o linach Qajar ym 1786, er mwyn bod o fewn cyrraedd agos i diriogaethau Iran yn y Cawcasws, cyn cael ei gwahanu oddi wrth Iran o ganlyniad i Ryfeloedd Russo-Iran rhwng 1651 a 1828. Mae'r brifddinas wedi'i symud sawl gwaith trwy hanes, a Tehran yw 32ain prifddinas genedlaethol Persia, sef yr hen enw ar Iran. Yn y 1920au, dechreuwyd dymchwel ac ailadeiladu llawer o adeiladau'r brifddinas, ac mae Tehran wedi bod yn gyrchfan ar gyfer ymfudiadau torfol o bob rhan o Iran ers yr 20g.[4]
Cynhaliwyd cyfarfod pwysig, Cynhadledd Tehran yn y ddinas yn 1943 rhwng yr Undeb Sofietaidd, Unol Daleithiau a Phrydain i drafod strategaeth a deilliannau'r Ail Ryfel Byd oedd ar ei hanterth ar y pryd. Gwelwyd terfysg fawr yn y brifddinas adeg y chwyldro yn 1979 pan fwriwyd y Shah o'i orsedd.
Mae'r rhan fwyaf o adeiladau'r ddinas yn ddiweddar ond mae Palas Gulistan (palas y shah cyn y chywldro) yn hen. Mae Hydref 6 yn cael ei nodi fel Diwrnod Tehran yn seiliedig ar benderfyniad yn 2016 gan aelodau o Gyngor y Ddinas, yn dathlu'r diwrnod pan ddewiswyd y ddinas yn swyddogol fel prifddinas Iran gan linach Qajar yn ôl ym 1907.[5]
Tehran yw canolfan fasnachol, weinyddol, ddiwyllannol a diwydiannol Iran. Ceir chwech prifysgol ynddi. Mae gan Tehran faes awyr rhyngwladol (Maes Awyr Imam Khomeini), maes awyr domestig (Maes Awyr Mehrabad), gorsaf reilffordd ganolog, system cludo cyflym Tehran Metro, system cludo cyflym bysiau, bysiau troli, a rhwydwaith mawr o briffyrdd.