Gradd dacsonomaidd yw teyrnas (lluosog: teyrnasoedd; Lladin: regnum) – y radd uchaf-ond-un – a ddefnyddir i ddosbarthu'n wyddonol organebau byw (anifeiliaid, planhigion ayb). Mae'r gair hefyd yn cael ei ddefnyddio o fewn bywydeg ar gyfer ffosiliau ac organebau a ddifodwyd. Mae'n cael ei leoli yn uwch na ffylau ac yn is na pharth.
Yn yr Yr Oesoedd Canol disgrifiwyd rhywogaethau gwahanol o fewn genws gyda rhestr hir o dermau Lladin. Nid tan y 18fed ganrif y cyflwynodd Carolus Linnaeus (1707–1778) y system sy’n parhau mewn defnydd heddiw, lle defnyddir dim ond dau air, un am y genws ac un am y rhywogaeth. Yr enw am y system hon yw'r system ddeuenwol. Yn Systema Naturae Carolus Linnaeus (1735), rhennir pethau byw yn ddwy deyrnas: Animalia a Vegetabilia. Ers hynny, datblygodd gwayddoniaeth a thechnoleg ac mae llawer wedi ei ganfod ynglŷn ag organebau ungellog, ymysg pethau eraill, felly roedd angen system mwy cynnil.[1] Yn y 1960au cyflwynwyd y gair rank (gradd) a newidiwyd yn ei dro i domain (parth).
Un system o'r fath yw'r system 6-teyrnas a ddefnyddir yn UDA, lle rhennir organebau yn Bacteria, Archaea, Protista (protistiaid neu brotosoaid), Fungi (ffwng), Plantae (planhigion) ac Animalia (neu anifeiliaid). Yng ngwledydd Prydain, India, Awstralia ac America Ladin, fodd bynnag, defnyddir 5-teyrnas, sef: Anifeiliaid, Planhigion, Ffwng, Protista a Monera. Mae rhai dulliau o ddosbarthu bywyd yn hepgor y term "Teyrnas", gan nodi nad yw'r teyrnasoedd traddodiadol yn perthyn i un hynafiad cyffredin.
Gellir ychwanegu rhagddodiaid megis "isdeyrnas", "uwchdeyrnas" neu "infradeyrnas".