Arwyddair | Montjoye Saint Denis |
---|---|
Math | gwlad ar un adeg |
Prifddinas | Paris, Versailles, Paris |
Sefydlwyd | |
Anthem | Marche Henri IV |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Teyrnas Ffrainc |
Yn ffinio gyda | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, Teyrnas Sbaen, Kingdom of Navarre beyond the Pyrenees, Teyrnas Navarra |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Estates General, Cynulliad Cenedlaethol Cyfansoddol |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | brenin Ffrainc, brenin Ffrainc a Navarre |
Arian | French livre, livre tournois, livre parisis, Louis d'or, écu, Q2389458, assignat, French franc |
Teyrnas yng Ngorllewin Ewrop a fodolai o ganol y 9g, trwy gydol yr Oesoedd Canol, hyd at y cyfnod modern oedd Teyrnas Ffrainc (Hen Ffrangeg: Reaume de France; Ffrangeg Canol: Royaulme de France; Ffrangeg: Royaume de France). Ymgododd o olion yr Ymerodraeth Garolingaidd, a thyfodd yn un o bwerau mawrion Ewrop. Yn yr 16g datblygwyd ymerodraeth dramor gan Deyrnas Ffrainc, gyda thiriogaethau yn Asia, Affrica, a'r Amerig. Yn sgil y Chwyldro Ffrengig, diddymwyd y deyrnas yn y cyfnod o 1792 i 1814. Fe'i adferwyd, dwywaith, wedi cwymp Napoleon, a pharhaodd hyd at chwyldro arall ym 1848.
Cychwynnodd Ffrainc ar ffurf Gorllewin Ffrancia (Lladin: Francia occidentalis), neu Deyrnas y Ffranciaid Gorllewinol, a oedd yn cyfateb i ran orllewinol yr Ymerodraeth Garolingaidd, a sefydlwyd gan Gytundeb Verdun yn 843. Rheolwyd y diriogaeth hon gan gangen o frenhinllin y Carolingiaid nes i Huw Capet gael ei ethol yn frenin yn 987. Câi'r wlad ei alw'n Francia, a'r teyrn yn rex Francorum (brenin y Ffranciaid) hyd at yr Oesoedd Canol Uwch. Philippe II ym 1190 oedd y cyntaf i alw ei hun yn rex Francie (brenin Ffrainc), a mabwysiadwyd y teitl hwnnw yn swyddogol ym 1204. O hynny ymlaen, byddai'r Capetiaid a'u canghennau—tai Valois a Bourbon—yn teyrnasu ar Ffrainc nes i'r frenhiniaeth gael ei ddymchwel ym 1792 yn ystod y Chwyldro Ffrengig. Câi Teyrnas Ffrainc hefyd ei rheoli mewn undeb personol â Theyrnas Navarra am ddau gyfnod, 1284–1328 a 1572–1620. Diddymwyd llys a llywodraeth Navarra ym 1620 a chyfeddianwyd y diriogaeth gan Ffrainc (er i Frenin Ffrainc barhau i ddefnyddio'r teitl Brenin Navarra hyd at ddiwedd y frenhiniaeth).
Yn ystod yr Oesoedd Canol, brenhiniaeth ffiwdal ddatganoledig oedd Ffrainc. Er yr oedd Llydaw a Chatalwnia (bellach yn rhan o Deyrnas Sbaen) yn swyddogol yn rhan o'r deyrnas, nid oedd gan Frenin Ffrainc fawr o awdurdod yn y tiriogaethau hynny. Roedd Lorraine a Profens yn daleithiau o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, ac nid eto yn rhan o Ffrainc. Ar y dechrau, etholwyd brenhinoedd Gorllewin Ffrancia gan y pendefigion seciwlar ac eglwysig, a datblygodd yr arfer o goroni mab hynaf y brenin yn ystod oes ei dad. Sefydlwyd felly egwyddor cyntafanedigaeth wrywol, a gynhwysir yn y gyfraith Salig. Yn ystod yr Oesoedd Canol Diweddar, bu nifer o ryfeloedd o ganlyniad i gystadlu rhwng y Capetiaid a'r Plantagenetiaid, a oedd yn rheoli Teyrnas Lloegr fel rhan o'r Ymerodraeth Angywaidd. Y gwrthdaro mwyaf oedd y Rhyfel Can Mlynedd (1337–1453), pryd hawliodd brenhinoedd Lloegr orsedd Ffrainc. Yn sgil buddugoliaeth Tŷ Valois, ceisiodd y Ffrancod estyn eu grym i'r Eidal, ond cawsant eu trechu gan Sbaen a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig yn ystod Rhyfeloedd yr Eidal (1494–1559).
Yn ystod y cyfnod modern cynnar, cafodd llywodraeth Ffrainc ei chanoli'n fwyfwy. Daeth yr iaith Ffrangeg yn iaith swyddogol genedlaethol, a chryfhaodd y brenin ei rym absoliwt drwy gyfundrefn weinyddol yr Ancien Régime. O ran crefydd, ymrannodd Ffrainc rhwng y mwyafrif Catholig a'r lleiafrif Protestannaidd, yr Hiwgenotiaid, gan arwain at gyfres o ryfeloedd cartref, y Rhyfeloedd Crefydd (1562–98). Niweidiwyd Ffrainc gan y gwrthdaro mewnol hynny, ond daeth y deyrnas yn wlad gryfaf y cyfandir yn sgil buddugoliaeth dros Sbaen a'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48). Yn ystod teyrnasiad Louis XIV, yn yr 17g, Ffrainc oedd y prif bŵer diwylliannol, gwleidyddol, a milwrol yn Ewrop.[1] Ar yr un pryd, datblygodd Ffrainc ei hymerodraeth drefedigaethol yn Asia, Affrica, a'r Amerig. Ar ei hanterth ym 1680, roedd Ffrainc yn meddu ar 10 miliwn km2 o drefedigaethau, yr ail ymerodraeth fwyaf yn y byd ar ôl Sbaen. Erbyn 1763, collodd y rhan fwyaf o'i thiroedd yng Ngogledd America, sef Ffrainc Newydd, o ganlyniad i ryfel â Phrydain Fawr. Llwyddodd ymyrraeth y Ffrancod yn Chwyldro America i ennill annibyniaeth i Unol Daleithiau America, ond heb fawr o fudd i Deyrnas Ffrainc.
Mabwysiadwyd cyfansoddiad ysgrifenedig gan Deyrnas Ffrainc ym 1791, yn ystod y Chwyldro Ffrengig, ond ym 1792 diddymwyd y frenhiniaeth yn llwyr a sefydlwyd Gweriniaeth Gyntaf Ffrainc. Adferwyd brenhinllin y Bourboniaid ym 1814 yn sgil buddugoliaeth y pwerau mawrion eraill dros Ymerodraeth Napoleon yn Rhyfel y Chweched Glymblaid, ond dymchwelwyd y frenhiniaeth unwaith eto yng nghyfnod y Can Niwrnod. Wedi cwymp terfynol Napoleon ym Mrwydr Waterloo, ailadferwyd Teyrnas Ffrainc, a fyddai'n parhau hyd at ymddiorseddu Louis Philippe I yn ystod Chwyldro 1848.