Thales | |
---|---|
Penddelw Rufeinig o'r 2g, ei thrwyn wedi cwympo, o Thales, a gedwir yn yr Amgueddfa Farmor ym Mhalas y Medici, Fflorens. | |
Ganwyd | c. 625 CC Miletus |
Bu farw | 540s CC o trawiad gwres Miletus |
Man preswyl | Miletus |
Galwedigaeth | mathemategydd, athronydd, seryddwr, ffisegydd, peiriannydd, llenor, geometer, athro |
Adnabyddus am | Thales' theorem |
Mudiad | athroniaeth cyn-Socratig, Ysgol Milesaidd |
Tad | Examyas |
Mam | Сleobulina |
Athronydd Groegaidd hynafol oedd Thales (620au CC – 540au CC) a sefydlodd yr ysgol Ïoniaidd.
Brodor ydoedd o Miletus, yn Asia Leiaf, a blodeuodd yn y 6g CC. Ychydig iawn a wyddys am amgylchiadau ei fywyd. Mynegir ei fod wedi cynghori yr Ïoniaid, y rhai a fygythid gan y Persiaid i ffurfio cynghrair yn erbyn eu gelyn grymus, ac i wneud Teos yn brifddinas. Mewn cyfnod diweddarach, dywedir ei fod wedi perswadio'r Milesiaid i dynnu yn ôl o gynghrair oedd rhyngddynt â'r brenin Croesus i wrthwynebu Cyrus Fawr. Mynegir hefyd iddo ragfynegi'r diffyg a fu ar yr haul yn nheyrnasiad Alyattes.
Yn ôl traddodiad yr hen Roegiaid, un o'r Saith Gŵr Doeth oedd Thales. Yr hyn a roddodd iddo hawl i'r teitl hwnnw oedd ei ddoethineb anarferol, yn hytrach nag unrhyw orchestion damcaniaethol. Er hynny, y mae iddo enw uchel yn hanes athroniaeth damcaniaethol. Ystyria rhai ef fel y Groegwr cyntaf a ffurfiodd ddamcaniaeth ar gyfansoddiad y greadigaeth. Yn ôl ei ddamcaniaeth, yr egwyddor wreiddiol o bob peth ydyw dŵr: o'r hwn y deilliai pob peth, a dychwelai pob peth yn ddŵr eilwaith. Mae yn dra thebygol taw ffurf o holldduwiaeth o ryw fath oedd ei athroniaeth ef. Nid ysgrifennodd ei ddamcaniaethau, ac nis gellir cael un syniad am nodwedd ei athrawiaeth, ond a ellir ei gasglu oddi wrth yr hyn a ddywedir amdano gan Roegwyr diweddarach megis Herodotus ac Aristoteles.