Cyfarwyddwr | Christopher Nolan |
---|---|
Cynhyrchydd | Christopher Nolan Charles Roven Emma Thomas |
Serennu | Christian Bale Michael Caine Heath Ledger Maggie Gyllenhaal Morgan Freeman Cillian Murphy |
Cerddoriaeth | Hans Zimmer James Newton Howard |
Sinematograffeg | Wally Pfister |
Golygydd | Lee Smith |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Warner Bros |
Dyddiad rhyddhau | Awstralia: 17 Gorffennaf 2008 Gogledd America: 18 Gorffennaf 2008 Y Deyrnas Unedig: 25 Gorffennaf 2008 |
Amser rhedeg | 152 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Rhagflaenydd | Batman Begins |
Olynydd | The Dark Knight Rises |
Gwefan swyddogol | |
Adolygiad BBC Cymru'r Byd | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm sy'n serennu Christian Bale a Heath Ledger yw The Dark Knight (2008). Seiliwyd y ffilm ar y cymeriad Batman o'r DC Comics, ac mae'n rhan o gyfres Christopher Nolan o ffilmiau. Dyma'r dilyniant i Batman Begins (2005). Adrodda'r ffilm hanes Bruce Wayne/Batman (Bale) wrth iddo ef a'r awdurdodau frwydro yn erbyn bygythiad newydd y Joker (Heath Ledger). Cafodd Nolan yr ysbrydoliaeth ar gyfer y Joker o'r llyfrau comig o'r 1940au a'r gyfres The Long Halloween (1996). Cafodd ei ffilmio'n bennaf yn Chicago, yn ogystal â lleoliadau eraill yn yr Unol Daleithiau, y DU a Hong Kong. Defnyddiodd Nolan gamera IMAX i ffilmio rhai golygfeydd, gan gynnwys ymddangosiad cyntaf y Joker yn y ffilm.
Ar yr 22ain o Ionawr, 2008, ar ôl gorffen ffilmio The Dark Knight, bu farw Ledger o gyfuniad o gyffuriau presgripsiwn. Arweiniodd hyn at sylw mawr yn cael ei roi i'r ffilm gan y wasg a chan y cyhoedd. Yn wreiddiol, bwriad Warner Bros. oedd i greu ymgyrch hyrwyddo ar gyfer The Dark Knight gan ddefnyddio gwefannau a ffilmiau byrion, gan ddefnyddio siotiau sgrîn o Heath Ledger fel y Joker. Ar ôl ei farwolaeth, newidiodd y stiwdio eu hymgyrch hyrwyddo.[1] Rhyddhawyd y ffilm ar 16 Gorffennaf 2008 yn Awstralia, ar 18 Gorffennaf 2008 yng Ngogledd America ac ar 24 Gorffennaf 2008 yn y DU. Derbyniodd y ffilm adolygiadau cadarnhaol pan gafodd ei rhyddhau a daeth y ffilm i fod yr ail ffilm yn unig i ennill dros $500 miliwn mewn sinemau yng Ngogledd America. Dyma yw'r pedwerydd ffilm yn unig i wneud dros $1 biliwn o ran gwerthiant. Yn sgîl ei llwyddiant beirniadol a masnachol, enillodd y ffilm wobrau amrywiol o'r Ffilm Orau i'r Effeithiau Arbennig Gorau.