Enghraifft o'r canlynol | cwmni theatr, busnes, sefydliad elusennol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2003 |
Gweithwyr | 15 |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Caerfyrddin |
Gwefan | http://www.theatr.cymru/ |
Diwylliant Cymru |
---|
Traddodiad |
Llenyddiaeth |
Cerddoriaeth |
Bwyd |
Dathliadau a gwyliau |
Chwaraeon |
Crefydd |
Hanes |
WiciBrosiect Cymru |
Cwmni Theatr Genedlaethol Cymraeg ei hiaith ydy Theatr Genedlaethol Cymru. Sefydlwyd y cwmni yn 2003 ac fe'i leolir erbyn hyn, yn yr Egin, Caerfyrddin. Mae bwriad a gweledigaeth y cwmni wedi amrywio'n fawr dros y blynyddoedd, yn unol â gweledigaeth yr arweinydd artistig gyfredol.[angen ffynhonnell]
Disgrifia'r cwmni ei hun fel 'Theatr deithiol genedlaethol'[1] ac yn y gorffennol, mae'r cwmni wedi teithio llawer o theatrau ar hyd a lled y wlad, gyda phrosiectau am: ysgrifennu creadigol, sioeau cerdd, gwaith safle-benodol, a chlasuron y Theatr Gymraeg a rhynglwadol.
Cafodd y cwmni ei henwebu fel Cynhyrchydd y Flwyddyn yn The Stage Awards 2024.[2]
Mae'r cwmni'n perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn flynyddol, fel arfer gyda dramâu newydd. Mae gwaith diweddar y cwmni wedi cael enwebiad UK Theatre Awards.[3]