Theorem Pythagoras

Theorem Pythagoras: Arwynebedd sgwâr yr hypotenws, c, yn hafal i swm arwynebedd sgwariau y ddwy ochr arall, a a b.

Mewn mathemateg, Theorem Pythagoras yw'r berthynas rhwng tair ochr triongl ongl sgwâr. Enwir y theorem ar ôl y mathemategwr Pythagoras o wlad Groeg. Tadogir darganfod a phrofi'r theorem ar Pythagoras, ond mewn gwirionedd yr oedd y theorem yn hysbys cyn cyfnod Pythagoras.

Dyma'r theorem fel y'i fynegir yn gyffredinol:

Mewn unrhyw driongl ongl sgwâr, mae arwynebedd y sgwâr sydd ag ochr yr hypotenws, yn hafal i swm arwynebau y sgwariau a'u hochrau eraill (sydd yn cwrdd ar yr ongl sgwâr).

Os taw c yw hyd yr hypotenws, ac a a b yw hydoedd y ddwy ochr arall, gellir mynegi'r hafaliad fel y ganlyn:

neu er mwyn datrys c:

Ar gyfer triongl sydd yn driongl ongl sgwâr, rhydd yr hafaliad hwn berthynas syml rhwng y tair ochr, fel y gellid darganfod hyd unrhyw ochr o wybod hyd y ddwy ochr arall.

Profwyd y ddamcaniaeth (theorem) sawl gwaith trwy lawer o wahanol ddulliau - y nifer mwyaf o weithiau, o bosibl ar gyfer unrhyw theorem fathemategol. Mae'r profion mathemategol yn amrywiol, gan gynnwys proflenni geometrig a phroflenni algebraidd, gyda rhai yn dyddio'n ôl filoedd o flynyddoedd.

Gellir cyffredinoli'r theorem mewn amrywiol ffyrdd: i ofodau dimensiwn uwch, i fannau nad ydynt yn Ewclidaidd, i wrthrychau nad ydynt yn drionglau cywir, ac i wrthrychau nad ydynt yn drionglau o gwbl ond yn solidau n-dimensiwn. Mae theorem Pythagoras wedi denu diddordeb y tu allan i fathemateg fel symbol o fathemateg astrus, cyfrinachedd, neu bŵer deallusol; mae cyfeiriadau poblogaidd mewn llenyddiaeth: mae dramâu, sioeau cerdd, caneuon, stampiau a chartwnau yn ddirifedi, rif y gwlith.


Developed by StudentB