Thomas Jones | |
---|---|
Ganwyd | 27 Medi 1870 Rhymni |
Bu farw | 15 Hydref 1955 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | addysgwr, gwas sifil, gwleidydd |
Plant | Eirene White, Tristan Lloyd Jones |
Gwas sifil ac addysgydd Cymreig oedd Thomas (Tom) Jones, a elwid yn T.J. (27 Medi 1870 - 15 Hydref 1955). Gwasanaethodd fel Is-ysgrifennydd y Cabinet dan bedwar Prif Weinidog: Lloyd George, Andrew Bonar Law, Stanley Baldwin a Ramsay MacDonald. Disgrifiwyd ef fel 'Ysgrifennydd Gwladol Answyddogol Cymru' gan Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (1986) a galwodd yr hanesydd Gwyn Alf Williams ef yn eminence gris 10 Stryd Downing.
Ganed ef yn Rhymni ym mwrdeistref sirol Caerffili.
Bu ganddo gysylltiad a llawer o achosion dyngarol a diwylliannol, gan gynnwys sefydlu'r cylchgrawn Welsh Outlook (A Monthly Journal of National Social Progress) yn 1914, Cyngor y Celfyddydau a Choleg Harlech. Ef oedd cadeirydd Gwasg Gregynog.
Tra yn Llundain, roedd yn aelod o'r Cliveden Set a bu'n cyfathrebu ar un adeg gydag Adolf Hitler.
Daeth ei ferch, Eirene White, yn Aelod Seneddol dros Sir y Fflint, a Gweinidog.