Thomas Wolsey | |
---|---|
Ganwyd | 1473 Ipswich |
Bu farw | 29 Tachwedd 1530 Caerlŷr |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig, barnwr, gwleidydd, gwladweinydd |
Swydd | Arglwydd Ganghellor, cardinal, Roman Catholic Bishop of Lincoln (England), Roman Catholic archbishop of York, gweinyddwr apostolaidd, gweinyddwr apostolaidd, gweinyddwr apostolaidd |
Tad | Robert Wolsey |
Mam | Joan |
Archesgob, gwladweinydd o Loegr ac yn gardinal yn yr Eglwys Gatholig oedd Thomas Wolsey (c. Mawrth 1473 – 29 Tachwedd 1530).[1] Ganwyd ef yn Ipswich, Suffolk. Pan ddaeth Harri VIII i’r orsedd fel Brenin Lloegr yn 1509, penodwyd Wolsey yn almonwr neu elusennwr y Brenin, sef unigolyn yn yr eglwys a arferai ddosbarthu arian i’r tlawd haeddiannol.[2] Llwyddodd Wolsey yn ei waith ac erbyn 1514 roedd yn unigolyn dylanwadol mewn llawer o faterion yn ymwneud â’r wladwriaeth. Roedd ganddo hefyd swyddi pwysig o fewn yr Eglwys - er enghraifft, fel Archesgob Caerefrog, yr ail swydd bwysicaf yn Eglwys Lloegr, yn ogystal â bod yn Llysgennad i’r Pab. Roedd ei benodiad fel cardinal gan y Pab Leo X yn 1515 wedi rhoi blaenoriaeth iddo dros holl glerigaeth Lloegr.
Y swydd wleidyddol bwysicaf a roddwyd i Wolsey oedd swydd yr Arglwydd Ganghellor, sef prif gynghorwr y Brenin. Rhoddodd y swydd honno lawer o ryddid iddo, ac roedd hyd yn oed yn cael ei ystyried fel alter rex (neu’r brenin arall). Wedi iddo fethu sicrhau ysgariad y Brenin Harri oddi wrth Catrin o Aragon, collodd Wolsey ffafr y Brenin, a thrwy hynny ei holl swyddi a theitlau llywodraethol. Aeth yn ôl i Gaerefrog er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau gyda’r Eglwys fel archesgob, swydd roedd wedi ei hesgeuluso pan oedd yn gweithio i’r llywodraeth. Cafodd ei alw'n ôl i Lundain er mwyn ateb y cyhuddiadau yn ei erbyn, sef teyrnfradwriaeth. Roedd y rhain yn gyhuddiadau y byddai Harri yn aml yn eu rhoi gerbron unigolion oedd wedi colli ei ffafr, ond bu Wolsey farw ar y daith yn ôl oherwydd afiechyd.[3]