Thomas Wood (AS Sir Frycheiniog)

Thomas Wood
Ganwyd21 Ebrill 1777 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ionawr 1860 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol, Tori Edit this on Wikidata
PlantDavid Edward Wood Edit this on Wikidata

Roedd Thomas Wood (21 Ebrill 177726 Ionawr 1860) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Torïaidd / Ceidwadol a fu'n cynrychioli Sir Frycheiniog yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1806-1847.

Roedd Wood yn fab i Thomas Wood a Mary Williams ei wraig, merch ac aeres Syr Edward Williams o Gastell Llangoed. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Harrow (1788-1795) a Choleg Oriel, Rhydychen (1796). Roedd y teulu wedi caffael ar ystadau sylweddol yn Middleham, Swydd Efrog, Gwernyfed ac yn Littleton ac Astlam ym Middlesex.

Priododd ddwywaith; ei wraig gyntaf oedd y Ledi Caroline Stewart, merch Robert Stewart, Ardalydd 1af Londonderry; bu iddynt 4 mab a 2 ferch. Bu ei fab y Cyrnol Thomas Wood yn aelod seneddol dros Middlesex. Ei ail wraig oedd y Ledi Frances Pratt, merch Charles Pratt, Iarll 1af Camden.[1]

Yn 1806 etholwyd Wood yn aelod seneddol etholaeth Sir Frycheiniog. Daliodd y sedd hyd 1847.

Fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Frycheiniog ar gyfer 1809-10.[2]

Bu Wood a'i wraig yn gyfeillgar gydag aelodau'r teulu brenhinol. Bu Siôr IV yn ymweld â'r Woods yng Ngwernyfed a bu aelodau eraill y teulu yn ymwelwyd â hwy yn Littleton.

Bu farw yn 82 oed.

  1. The History of Parliament online WOOD, Thomas (1777-1860), of Gwernyfed Park, Three Cocks, Brec. and Littleton Park, nr. Staines, Mdx. [1] adalwyd 20 Rhagfyr 2015
  2. Williams, William Retlaw; T20 The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 [2] adalwyd 20 Rhagfyr 2015

Developed by StudentB