Tiwmor

Tiwmor
Mathneoplasm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Twf annaturiol o feinwe yw tiwmor. Mae'r twf annormal hwn (neoplasia) fel arfer (ond nid bob amser) yn ffurfio'n grynswth, a chyfeirir at y crynswth hwnnw fel tiwmor.[1][2][3]

Mae ICD-10 yn dosbarthu neoplasmau i bedwar prif grŵp: neoplasmau diniwed, neoplasmau presennol, neoplasmau enbyd, a neoplasmau ansicr neu anhysbys eu hymddygiad.[4] Gelwir neoplasmau enbyd hefyd yn ganser, a'r cyflyrau hynny yw ffocws pennaf y maes oncoleg.

Cyn y twf annaturiol hwn o feinwe, fel neoplasia, mae celloedd fel arfer yn dilyn cwrs tyfiant unigryw, fel metaplasia neu dysplasia.[5] Fodd bynnag, nid yw metaplasia neu ddysplasia bob amser yn datblygu i ffurfio neoplasia. Hana’r gair o'r Hen Roeg νέος - neo "newydd" a πλάσμα - plasma "ffurfiant, creadigaeth".

  1. Birbrair A, Zhang T, Wang ZM, Messi ML, Olson JD, Mintz A, Delbono O (Jul 2014). "Type-2 pericytes participate in normal and tumoral angiogenesis". American Journal of Physiology. Cell Physiology 307 (1): C25-38. doi:10.1152/ajpcell.00084.2014. PMC 4080181. PMID 24788248. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4080181.
  2. Cooper GM (1992). Elements of human cancer. Boston: Jones and Bartlett Publishers. t. 16. ISBN 978-0-86720-191-8.
  3. Taylor, Elizabeth J. (2000). Dorland's Illustrated medical dictionary (arg. 29th). Philadelphia: Saunders. t. 1184. ISBN 0721662544.
  4. "II Neoplasms". World Health Organization. Cyrchwyd 19 June 2014.
  5. Abrams, Gerald. "Neoplasia I". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-31. Cyrchwyd 23 January 2012.

Developed by StudentB