Math | dinas fawr, municipality of Tunisia |
---|---|
Poblogaeth | 602,560 |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnis |
Gwlad | Tiwnisia |
Arwynebedd | 212,630,000 m² |
Uwch y môr | 4 metr |
Gerllaw | Llyn Tiwnis, Gwlff Tiwnis |
Cyfesurynnau | 36.8008°N 10.18°E |
Cod post | 1000 |
Tiwnis[1] (Arabeg: تونس, Tiŵ-nis) yw prifddinas a dinas fwyaf Tiwnisia. Fe'i lleolir ar lannau Llyn Tiwnis yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Mae Tiwnis Fwyaf yn cynnwys nifer o faerdrefi poblog ar lan Gwlff Tiwnis, gan gynnwys Carthago a Sidi Bou Saïd, ac ar y bryniau isel i'r dwyrain a'r de o'r ddinas ei hun. Rhennir y ddinas yn ddwy ran. Y medina yw'r hen ddinas gaerog a nodweddir gan strydoedd cul a rhai o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth traddodiadol yn y wlad. O'i chwmpas ceir y Ville Nouvelle, y rhan newydd o'r ddinas a noddweddir gan strydoedd llydan, pensaernïaeth Ffrengig, a siopau a chaffis canoldirol. Mae'r gyferbyniaeth rhwng y ddwy Diwnis hyn - yr Arabaidd a'r Ewropeaidd - yn rhan o swyn a chymeriad y ddinas. Mae tua 728,455 (2004) o bobl yn byw ynddi (amcangyfrifir poblogaeth o tua 1.5 neu hyd at 2 filiwn ar gyfer Tiwnis Fwyaf).