Math | ardal fetropolitan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnis, Manouba, Ben Arous, Ariana |
Gwlad | Tiwnisia |
Rhanbarth ddinesig yng ngogledd-ddwyrain Tiwnisia yw Tiwnis Fwyaf. Yn ogystal â'r brifddinas Tiwnis mae'n cynnwys y maerdrefi cylchynol i'r gorllewin, ac ar lannau gogleddol a deheuol Llyn Tiwnis. Erbyn heddiw mae trefi arfordirol La Marsa a'r gyfres o drefi a phentrefi bach sy'n ffurfio stribyn o dir datblygedig ar lan orllewinol Gwlff Tiwnis - o Sidi Bou Saïd i La Goulette - yn cael eu cyfrif yn rhan o Diwnis Fwyaf hefyd. Yn ogystal mae stribyn arall o drefi ar lan ddeheuol Gwlff Tiwnis yn ffurfio estyniad dwyreiniol i'r ddinas, o Rades i Borj Cedria.
Yr ardal hon oedd 'tir cartref' dinas hynafol Carthago, a safai ar fryn y Byrsa hanner ffordd rhwng La Goulette a Sidi Bou Saïd heddiw. Mae natur y trefi a maerdrefi hyn yn amrywio'n fawr, o ardaloedd preswyl dosbarth gweithiol fel rhannau o Ariana i rai o'r mannau mwyaf breintiedig yn y wlad, fel La Marsa a Carthago. Mae'n cynnwys ardaloedd diwydiannol fel Mégrine a'i gweithfeydd cemegol a Rades i drefi glan môr dymunol fel La Goulette. Amcangyfrir fod tua 1.5 miliwn o bobl (neu hyd at 2 filiwn) yn byw yn yr ardal.