Trajan | |
---|---|
Ganwyd | Marcus Ulpius Traianus 18 Medi 0053 Italica, Pedraza |
Bu farw | Awst 117 o y parlys mud Selinus, Cilicia |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwladweinydd, gwleidydd, swyddog milwrol |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, llywodraethwr Rhufeinig, Praetor, Conswl Rhufeinig |
Tad | Marcus Ulpius Traianus, Nerva |
Mam | Marcia |
Priod | Pompeia Plotina |
Plant | Hadrian |
Llinach | Ulpii Traiani, Nerva–Antonine dynasty |
Caesar Nerva Traianus Germanicus neu Trajan (18 Medi 53 – 9 Awst 117), oedd Ymerawdwr Rhufain o 28 Ionawr 98 hyd ei farwolaeth. Ganwyd Marcus Ulpius Traianus.
Ganed Trajan yn y ddinas Rufeinig Italica (Santiponce heddiw), heb fod ymhell o ddinas Hispalis (Sevilla heddiw), rhan o dalaith Baetica. Roedd ei dad, oedd a'r un enw, yn un o ddilynwyr pwysicaf Vespasian. Dilynodd Trajan yr yrfa gyhoeddus draddodiadol, gan ddod yn gonswl yn 91. Priododd Ulpia Plotina, ond ni fu ganddynt blant.
Yn ystod teyrnasiad Nerva daeth Trajan yn rhaglaw talaith Germania Superior. Mabwysiadodd Nerva ef fel mab ac fel olynydd iddo. Roedd Trajan yn filwr galluog, ac ar ôl dod yn ymerawdwr parhaodd i ymladd ar Afon Rhein ac Afon Donaw. Ni ddaeth i Rufain am y tro cyntaf fel ymerawdwr hyd y flwyddyn 99. Bu'n ymladd llawer yn erbyn y Daciaid, oedd yn byw yn yr ardal sy'n awr yn Rwmania. Bu dau ryfel yn erbyn Decebalus, brenin Dacia, a gorchfygwyd ef gan Trajan, gan greu talaith Rufeinig newydd Dacia. Adeiladwyd Colofn Trajan yn Rhufain i goffhau ei fuddugoliaeth. Tua'r un pryd crëwyd talaith Arabia Petraea.
Yn 113 dechreuodd rhyfel yn erbyn y Parthiaid. Cipiodd Ctesiphon, prifddinas Parthia, yn 115, ac ymgorfforwyd Armenia, Asyria a Mesopotamia yn yr ymerodraeth. Bu farw Trajan ar ei ffordd yn ôl o'r brwydro yma, yn Selinus, gerllaw y Môr Du, ar yr 8 Awst 117. Yn ystod teyrnasiad Trajan y cyrhaeddodd yr ymerodraeth Rufeinig ei maint eithaf. Dewisodd Trajan Hadrian fel ei olynydd.
Rhagflaenydd: Nerva |
Ymerawdwr Rhufain 28 Ionawr 98 – 7 Awst 117 |
Olynydd: Hadrian |