Enghraifft o'r canlynol | system wleidyddol, economic system, cysyniad gwleidyddol |
---|---|
Math | trefn gymdeithasol |
Term ym maes cysylltiadau rhyngwladol yw trefn ryngwladol neu drefn y byd a ddefnyddir i ddisgrifio unrhyw batrwm o normau, rheolau, ac arferion yng nghyd-ymddygiad gwladwriaethau sydd yn nodweddu system ryngwladol. Mae'n cynnwys nodweddion ffurfiol ym meysydd gwleidyddiaeth, diplomyddiaeth, y gyfraith, economeg, a materion milwrol sydd yn siapio ac yn cysoni'r sefyllfa yn nhermau grym, rhyfel a heddwch.[1]
Sail y drefn ryngwladol gyfoes ydy'r system wladwriaethau a ddatblygwyd yn Ewrop yn ystod y cyfnod modern cynnar, ac Heddwch Westffalia (1648) sydd yn diffinio awdurdod a sofraniaeth y genedl-wladwriaeth fodern. Dyma esiampl o anllywodraeth yn y drefn ryngwladol, gan nad oes awdurdod canolog i wleidyddiaeth y byd. Yn ôl damcaniaeth realaeth, raison d'état ac ystyriaethau o fuddiannau'r wlad sydd yn gyrru polisi tramor a chysylltiadau rhwng gwledydd.