Enghraifft o'r canlynol | siâp geometrig |
---|---|
Math | bicentric polygon, simplex, tritope, polygon, planar generalized triangle |
Rhagflaenwyd gan | digon, segment o linell |
Olynwyd gan | Pedrochr, tetrahedron |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Polygon sydd â thair ochr llinell a thri fertig yw triongl (enw gwrywaidd). Mae'n un o'r siapiau sylfaenol mewn geometreg. Mae triongl gyda fertigau A, B, a C yn cael ei ddynodi mewn mathemateg fel . Mae cyfanswm onglau mewnol pob triongl yn 180 ° a chyfanswm yr onglau allanol yn 360 °.
Mewn geometreg Ewclidaidd, mae unrhyw dri phwynt, pan nad ydynt yn unllin (collinear), yn pennu triongl unigryw ac ar yr un pryd, plân unigryw (hy, lle Ewclidaidd dau-ddimensiwn). Mae'r erthygl hon yn ymwneud â thrionglau mewn geometreg Ewclidaidd, ac yn arbennig, y plân Ewclidaidd, ac eithrio lle nodir fel arall.