Term o fewn cyfraith ryngwladol ydy trosedd yn erbyn dynoliaeth[1] sydd yn cyfeirio at erledigaeth neu unrhyw erchyllterau ar raddfa eang yn erbyn grŵp o bobl, sef y trosedd gwaethaf.[2] Cafodd ei ddifinio gan Siartr Awst 1945 y Tribiwnlys Milwrol Rhyngwladol, pedd yn sail i Brofion Nuremberg, fel:
llofruddiaeth, difodiad, caethiwed, alltudiaeth, a gweithredoedd creulon eraill a wneir yn erbyn unrhyw boblogaeth sifiliol cyn neu yn ystod y rhyfel, neu erledigaethau am resymau gwleidyddol, hiliol, neu grefyddol