Enghraifft o'r canlynol | rhyfel |
---|---|
Rhan o | Rhyfeloedd Pwnig |
Dechreuwyd | 149 CC |
Daeth i ben | 146 CC |
Rhagflaenwyd gan | Ail Ryfel Pwnig |
Lleoliad | Tiwnisia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymladdwyd y Trydydd Rhyfel Pwnig rhwng Gweriniaeth Rhufain a Carthago o 149 CC hyd 146 CC).
Wedi blynyddoedd o frwydro, roedd Rhufain wedi gorchfygu Carthago yn yr Ail Ryfel Pwnig, ac wedi rhoi telerau heddwch i Carthogo oedd yn ei hamddifadu o'i meddiannau tramor ac yn eu gorfodi i dalu swm mawr o arian i Rufain. Un o'r telerau oedd na allai Carthago fynd i ryfel yn erbyn neb heb ganiatâd Rhufain.
Roedd buddugoliaethau Hannibal yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig wedi codi ofn ar y Rhufeiniaid. Yn y senedd, dechreuodd Marcus Porcius Cato ymgyrch i sicrhau fod Carthago yn cael ei dinistrio, gan ddiweddu pob araith, ar unthyw bwnc, gyda'r geiriau Ceterum censeo, Carthaginem esse delendam (Heblaw hynny, rwy'n credu fod rhaid dinistrio Carthago). Yn 149 CC, aeth Carthago i ryfel yn erbyn Numidia heb ganiatâd Rhufain. Cyhoeddodd Rhufain ryfel ar Carthago, a gyrrwyd byddin Rufeinig dan Scipio Aemilianus.
Bu'r ymladd yn galetach nag a ddisgwyliai'r Rhufeiniaid, a chymerodd dair blynedd cyn i Scipio fedru cipio'r ddinas. Dinistrwyd y ddinas, a gwerthwyd y trigolion fel caethion.