Math | gweriniaethau Rwsia |
---|---|
Prifddinas | Grozny |
Poblogaeth | 1,492,992 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Cân Shatlak |
Pennaeth llywodraeth | Ramzan Kadyrov |
Cylchfa amser | Amser Moscfa, Ewrop/Moscfa |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg, Tsietsnieg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws |
Sir | Rwsia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 16,165 km² |
Yn ffinio gyda | Dagestan, Crai Stavropol, Gogledd Osetia, Gweriniaeth Ingushetia |
Cyfesurynnau | 43.4°N 45.7167°E |
RU-CE | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Parliament of the Chechen Republic |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Pen Y Weriniaeth Tsietsniaidd |
Pennaeth y Llywodraeth | Ramzan Kadyrov |
Un o Weriniaethau Hunanlywodraethol Rwsia yw Tsietsnia, yn llawn Y Weriniaeth Tsietsniaidd, hefyd Chechnya (Rwseg: Чеченская республика, Tsietsnieg: Нохчийн Республика/Noxçiyn Respublika). Saif yn ardal Gogledd y Cawcasws ac mae'n rhan o'r Rhanbarth Ffederal Deheuol. Mae'r mudiad sy'n ymgyrchu am hunanlywodraeth yn defnyddio'r enw Gweriniaeth Tsietsniaidd Itskeria. Enwir y weriniaeth ar ôl grŵp ethnig y Tsietsien. Yn y de, mae'n ffinio ar Georgia. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 1,103,686, a'r brifddinas yw Grozny.
Wedi i'r Undeb Sofietaidd ddod i ben yn 1991, cyhoeddodd Gweriniaeth Tsietsniaidd Itskeria ei hun yn annibynnol. Yn dilyn Rhyfel Cyntaf Tsietsnia, llwyddodd y weriniaeth hon i ennill annibyniaeth de facto, ond yn yr Ail Ryfel Tsietsniaidd adfeddiannwyd y diriogaeth gan Rwsia, gyda difrod mawr.