Mae Tystion Jehofa yn fudiad crefyddol Cristnogol[1] adferiadol [2] a milflynyddol.[3]. Mae cymdeithasegwyr crefyddol wedi nodi'r grŵp fel sect adfentyddol.[4] Tarddiodd y grŵp o Fudiad Beiblaidd y Myfyrwyr ar ddiwedd y 19g gan Charles Taze Russell. Aeth trwy gyfnod o newid sylweddol rhwng 1917 a'r 1940au, wrth i'w strwythur awdurdod gael ei ganoli a'u dulliau o bregethu gael eu strwythuro ymhellach. Erbyn heddiw, dywedant fod ganddynt aelodaeth fyd-eang o tua 8,7 miliwn o bobl.[5]
Maent yn fwyaf adnabyddus am eu pregethu o ddrws-i-ddrws, ac am eu bod yn gwrthod gwasanaeth milwrol a thrawslifiadau gwaed. Mae safbwynt y grefydd ar wrthwynebiad cydwybodol wedi achosi iddynt wrthdaro â llywodraethau sy'n ymfyddino trigolion y wlad. O ganlyniad, mae gweithgarwch Tystion Jehofa wedi'i wahardd mewn rhai gwledydd.[6]. Mae Tystion Jehofa wedi cael dylanwad mawr ar gyfraith cyfansoddiadol yr Unol Daleithiau oherwydd eu hawliau sifil a'u gwrthwynebiad cydwybodol i wasanaeth milwrol.[7]
Ers 1876, mae dilynwyr y ffydd wedi bod yn credu eu bod yn byw yn nyddiau olaf y byd presennol.[8] Yn ystod y blynyddoedd a arweiniodd i fyny at 1914, 1925 a 1975, dywedodd cyhoeddiadau'r grefydd eu bod yn credu y byddai Armagedon yn ystod y blynyddoedd hyn. Arweiniodd hyn at nifer yn ymuno â Thystion Jehofa, dim ond i adael yn ddiweddarach.[9]