Delwedd:Coat of arms of Moldavia.svg, COA of Moldavia 1855.svg | |
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Moldova |
Prifddinas | Iași, Suceava, Siret, Baia |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwmaneg, Church Slavonic in Romania, Groeg |
Daearyddiaeth | |
Yn ffinio gyda | Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, Wallachia, Uchel Ddugiaeth Lithwania |
Crefydd/Enwad | yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol |
Arian | thaler |
Tywysogaeth yn Nwyrain Ewrop a fodolai am ryw bumcan mlynedd, o ganol y 14g i 1859, oedd Tywysogaeth Moldofa neu Moldafia (Rwmaneg: Moldova neu Țara Moldovei). Lleolwyd yn rhanbarth isaf Afon Donaw, rhwng mynyddoedd y Carpatiau i'r gorllewin ac Afon Dniester i'r dwyrain. Ar ei hanterth, yn y 15g, roedd yn ffinio â'r Môr Du, ond am y rhan fwyaf o'i hanes gwlad dirgaeedig ydoedd.
Sefydlwyd Moldofa yn ystod hanner cyntaf y 14g gan Dragoș, pennaeth ar fyddin o Flachiaid a anfonwyd gan Lajos I, brenin Hwngari, i wrthsefyll y Llu Euraid. Tua 1349, disodlwyd Sas, mab Dragoș, gan y Tywysog Bogdan, a ddatganodd ei hun yn deyrn ar Foldofa, y tu hwnt i reolaeth Teyrnas Hwngari. Byddai tywysogion Moldofa yn amddiffyn eu hannibyniaeth yn erbyn Hwngari a Gwlad Pwyl, ac yn ehangu eu tiriogaeth i gynnwys Besarabia yn y dwyrain a Bukovina yn y gogledd-orllewin. Llwydodd y Tywysog Ștefan III (Steffan Fawr; teyrnasai 1457–1504) i wrthsefyll goresgyniadau gan luoedd yr Ymerodraeth Otomanaidd, ond yn sgil ei farwolaeth gorchfygwyd Moldofa gan yr Otomaniaid a gorfodwyd i'w fab, y Tywysog Bogdan III (t. 1504–17) i dalu teyrnged i'r Swltan Bayezid II.
Erbyn canol yr 16g, gwladwriaeth gaeth i'r Ymerodraeth Otomanaidd ond yn meddu ar rywfaint o ymreolaeth oedd Tywysogaeth Moldofa. Yn ystod y trichan mlynedd olynol byddai Moldofa dan dra-arglwyddiaeth yr Otomaniaid, ac ambell waith byddai'r tywysogion yn gwrthod awdurdod y Swltan, gan gynnwys gwrthryfel Ioan III (t. 1572–4) yn erbyn trethi uchel. Ym 1600 ceisiodd Mihai, Tywysog Walachia, uno ei diriogaeth â Moldofa a Thransylfania, ac o 1601 i 1618 cydnabuwyd penarglwyddiaeth Gwlad Pwyl gan dywysogion o frenhinllin y Movilești. Fodd bynnag, bu'r Otomaniaid yn goruchafu ar farchnadoedd Moldofa ac yn aml yn rheoli olyniaeth y tywysogion. Wedi 1711, dewiswyd y tywysogion o'r Ffanariaid, sef y teuluoedd Groegaidd cefnog o Gaergystennin.[1]
Daeth Moldofa fwyfwy dan ddylanwad Ymerodraeth Rwsia yn y 18g. Collodd y dywysogaeth Bukovina i'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ym 1774, ac ildiodd Besarabia i Rwsia yn sgil Cytundeb Bwcarést (1812). Dymchwelwyd llywodraeth y Ffanariaid yn sgil gwrthryfel ym 1821, a daeth Moldofa dan reolaeth Rwsia yn sgil rhyfel rhwng Rwsia a'r Ymerodraeth Otomanaidd ym 1828–9. Cyflwynwyd cyfansoddiad y Regulamentul Organic (Statud Organig) gan Rwsia ym 1832. Wedi methiant y Rwsiaid yn Rhyfel y Crimea (1853–56), cydnabuwyd Moldofa yn swyddogol fel gwladwriaeth awtonomaidd dan ben-arglwyddiaeth yr Otomaniaid. Ym 1859, unwyd Tywysogaethau Moldofa a Walachia ar ffurf Rwmania.