Arwyddair | In God We Trust |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth gyfansoddiadol, gweriniaeth ddemocrataidd, gwladwriaeth ffederal, Uwchbwer, gwlad |
Enwyd ar ôl | Yr Amerig |
Prifddinas | Washington |
Poblogaeth | 332,278,200 |
Sefydlwyd | |
Anthem | The Star-Spangled Banner |
Pennaeth llywodraeth | Joe Biden |
Cylchfa amser | UTC−12:00, UTC−11:00, UTC−09:00, UTC−08:00, UTC−07:00, UTC−06:00, UTC−05:00, UTC−04:00, UTC+10:00, UTC+12:00, Samoa Time Zone, Cylchfa Amser yr Iwerydd, Cylchfa Amser Canolog, Alaska Time Zone, Cylchfa Amser y Mynyddoedd, Chamorro Time Zone |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 9,826,675 ±1 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Arctig, Y Cefnfor Tawel, Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Mecsico, Canada |
Cyfesurynnau | 39.828175°N 98.5795°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau |
Corff deddfwriaethol | Cyngres yr Unol Daleithiau |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd yr Unol Daleithiau |
Pennaeth y wladwriaeth | Joe Biden |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd yr Unol Daleithiau |
Pennaeth y Llywodraeth | Joe Biden |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $23,315,081 million, $25,462,700 million |
Arian | doler yr Unol Daleithiau |
Canran y diwaith | 6.7 ±0.001 canran |
Cyfartaledd plant | 1.8615 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.921 |
Gweriniaeth ffederal yng Ngogledd America yw Unol Daleithiau America (Saesneg: United States of America) neu'r Unol Daleithiau (hefyd, yn enwedig ar lafar, "America"). Mae hanner cant o daleithiau yn yr undeb. Lleolir y 48 talaith gyfagos rhwng Canada i'r gogledd a Mecsico i'r de. Lleolir Alaska yng ngogledd-orllewin y cyfandir i'r gorllewin o Ganada. Ynysfor yng nghanol y Cefnfor Tawel yw'r dalaith arall, sef Hawaii. Ceir hefyd 326 neilldiroedd Amerindiaidd (Indian reservations). Gydag arwynebedd o 3.8 miliwn milltir sgwâr hi yw'r drydedd neu'r bedwaredd wlad fwyaf yn y byd. Mae'n ffinio gyda Chanada i'r gogledd a Mecsico i'r de yn ogystal â ffiniau morwrol cyfyngedig gyda'r Bahamas, Cuba, a Rwsia.[1]
Ymfudodd y paleo-Amerindiaid i dir mawr Gogledd America o leiaf 12,000 o flynyddoedd yn ôl, a dechreuodd gwladychu Ewropeaidd yn yr 16g. Daeth yr Unol Daleithiau yn annibynnol o Loegr wedi sawl anghydfod â Phrydain Fawr ynghylch trethiant a chynrychiolaeth wleidyddol at Ryfel Annibyniaeth America (1775–1783), a ddaeth ag annibyniaeth i'r genedl. Serennod y Cymro Richard Price pan ddechreuodd Rhyfel Annibyniaeth America ar 9 Ebrill 1775 a bu'n allweddol yn cynghori'r Llywodreth newydd sut i greu system ariannol newydd.
Ar ddiwedd y 18g, dechreuodd yr Unol Daleithiau ehangu ar draws Gogledd America, gan feddiannu tiriogaethau newydd yn raddol, weithiau trwy ryfel neu drwy ddisodli Americanwyr Brodorol yn aml, gan eu troi'n daleithiau newydd; erbyn 1848, roedd yr Unol Daleithiau yn rhychwantu'r Gogledd America, ar wahan i'r gwledydd a elwir heddiw'n Ganada ac Alaska.
Roedd caethwasiaeth yn gyfreithlon yn ne'r Unol Daleithiau tan ail hanner y 19g, pan arweiniodd Rhyfel Cartref America at ei ddiddymu. Daeth yr Unol Daleithiau'n bwer mawr yn dilyn Rhyfel Sbaen-America a Rhyfel Byd Cyntaf, statws a gadarnhawyd gan ganlyniad yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y Rhyfel Oer, ymladdodd yr Unol Daleithiau Ryfel Corea a Rhyfel Fietnam ond osgowyd gwrthdaro milwrol uniongyrchol â'r Undeb Sofietaidd. Cystadlodd y ddau bŵer yn y Ras Ofod, gan arwain Rwsia'n llwyddo i roi dyn yn y gofod, ac yna yr UDA yn llwyddo i roi dyn ar y lleuad. Daeth diddymiad yr Undeb Sofietaidd ym 1991 a'r Rhyfel Oer i ben, gan adael yr Unol Daleithiau fel unig bŵer-enfawr y byd.
Mae'r Unol Daleithiau yn weriniaeth ffederal ac yn ddemocratiaeth gynrychioliadol gyda thair cangen ar wahân o lywodraeth, gan gynnwys deddfwrfa ddwyochrog. Mae'n aelod sefydlog o'r Cenhedloedd Unedig, Banc y Byd, y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Sefydliad Taleithiau America, NATO, a sefydliadau rhyngwladol eraill. Mae hefyd yn aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Caiff ei hystyried yn dawddlestr o ddiwylliannau ac ethnigrwydd, ac mae ei phoblogaeth wedi cael ei siapio gan ganrifoedd o fewnfudo. Mae'r UD yn uchel mewn mesurau rhyngwladol o ryddid economaidd, ansawdd bywyd, addysg a hawliau dynol, er bod ganddi record ofnadwy o lofruddiaethau gynnau, niferoedd mewn carchar, problemau cyffuriau ayb. a beirniadir y wlad am yr anghydraddoldeb sy'n gysylltiedig â hil, cyfoeth ac incwm a diffyg gofal iechyd cyffredinol.
Mae'r Unol Daleithiau yn wlad ddatblygedig iawn, mae'n cyfrif am oddeutu chwarter y CMC byd-eang, a hi yw economi fwyaf y byd yn ôl CMC ar gyfraddau cyfnewid y farchnad . Yn ôl gwerth, yr Unol Daleithiau yw mewnforiwr nwyddau mwy'r byd ac allforiwr nwyddau ail-fwyaf. Er mai dim ond 4.2% o gyfanswm y byd yw ei phoblogaeth, mae'n dal 29.4% o gyfanswm cyfoeth y byd, y gyfran fwyaf sydd gan unrhyw wlad. Gan ffurfio mwy na thraean o'r gwariant milwrol byd-eang, hwn yw'r pŵer milwrol mwyaf blaenllaw yn y byd ac mae'n rym gwleidyddol, diwylliannol a gwyddonol, yn rhyngwladol.[2]