Valens

Valens
Ganwyd328 Edit this on Wikidata
Vinkovci Edit this on Wikidata
Bu farw9 Awst 378 Edit this on Wikidata
o Brwydr Adrianople Edit this on Wikidata
Edirne Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd, Count of the Stable, pontifex maximus, imperator, Tribunicia potestas, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadGratian Edit this on Wikidata
PriodAlbia Dominica Edit this on Wikidata
PlantValentinianus Galates, Anastasia Edit this on Wikidata
LlinachValentinianic dynasty Edit this on Wikidata

Ymerawdwr Rhufeinig oedd Flavius Iulius Valens (Lladin: IMPERATOR CAESAR FLAVIVS IVLIVS VALENS AVGVSTVS; 3289 Awst 378).

Ganed ef yn Cibalae (Vinkovci yn Serbia heddiw) yn fab i Gratian yr Hynaf. Credir iddo ymuno a'r fyddin yn y 360au, gan gymeryd rhan gyda'i frawd Flavius Valentinianus yn ymgyrch yr ymerawdwr Julian yn erbyn y Persiaid.

Pan lofruddwiyd yr ymerawdwr Jovianus, cyhoeddwyd Valentinianus yn Augustus ar 26 Chwefror 364. Cyhoeddodd yntau ei frawd Valens yn gyd-ymerawdwr ar 28 Mawrth. Rhoddwyd rhan ddwyreiniol yr ymerodraeth iddo i'w llywodraethu. Bu raid iddo ddelio ag ymgais gan berthynas i'r ymerawdwr Julian, Procopius, i hawlio'r orsedd, a dim ond yn 366 y gallodd Valens ei orchfygu a'i ddienyddio.

Bu Valens yn ymladd yn erbyn y Gothiaid ac yn erbyn y Persiaid. Roedd yn cynllunio ymgyrch yn y dwyrain pan symudodd nifer fawr o Fisigothiaid i mewn i'r ymerodraeth yn Moesia a of Dacia oherwydd fod yr Hyniaid yn ymosod arnynt. Ar y cyntaf fe'u derbyniwyd yn heddychlon, ond yn fuan dechreuodd ymladd. Enillodd y Gothiaid nifer o frwydrau lleol, ac yn 378 daeth Valens ei hun i'w gwrthwynebu. Roedd ei nai, Gratian, oedd wedi olynu Valentinianus, ar y ffordd gyda byddin i gynorthwyo, ond mynnodd Valens ymladd cyn iddo gyrraedd. Ym Mrwydr Adrianople ar 9 Awst 378, gorchfygwyd ef gan y Gothiaid a'u cyngheiriaid a'i ladd. Olynwyd ef gan Theodosius I.

Gwnanychwyd yr ymerodareth Rufeinig yn fawr gan ei cholledion ym Mrwydr Adrianople. Canlyniad arall y frwydr a marwolaeth Valens oedd gwanhau Ariadaeth yn yr ymerodraeth; roedd Valens yn Ariad ond roedd ei olynwyr yn dilyn Credo Nicea.

Rhagflaenydd:
Jovian
Ymerawdwr Rhufain
364378
gyda Valentinian I
Olynydd:
Gratianus
a Valentinian II

Developed by StudentB